Tecwyn Roberts

Oddi ar Wicipedia
Tecwyn Roberts
Ganwyd10 Hydref 1925 Edit this on Wikidata
Llanddaniel Fab Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1988 Edit this on Wikidata
Crownsville Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr am Wasanaeth Eithriadol i NASA, NASA Distinguished Service Medal Edit this on Wikidata

Roedd Tecwyn Roberts (10 Hydref 192527 Rhagfyr 1988) yn beiriannydd awyrofod o Gymro.[1] Yn y 1960au chwaraeodd ran bwysig yng nghynllunio Canolfan Rheoli Taith (Mission Control Center) yng Nghanolfan Ofod Johnson NASA yn Houston, Texas a chreu rhwydwaith cyfathrebu a thracio byd-eang NASA.[2]

Gwasanethodd Roberts fel Swyddog Deinameg Hedfan cyntaf NASA ar Brosiect Mercury i roi'r Americanwr cyntaf yn y gofod. Ymunodd wedyn â Chanolfan Ofod Goddard NASA lle bu'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr a Rheolwr system cyfathrebu a thracio byd-eang y Ganolfan, a oedd yn cefnogi rhaglenni NASA ar gyfer hedfan mewn cylchdro daear isel di-griw a chyda chriw.[3]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Roberts, a gafodd y llysenw "Tec" neu "Tecs", yn Lerpwl yn fab i William a Grace Roberts o Ynys Môn. Collodd ei dad c. 1936 a symudodd gyda'i fam at ei theulu hi yn Nhy Capel Gorslwyd, Rhos-y-bol, Ynys Môn. Mae llyfr log yn dangos iddo fynd a dod rhwng Rhos-y-bol a Lerpwl sawl tro yn ystod 1936 ac 1937[4]. Tra yn Lerpwl mynychodd ysgol Girton House, Shiel Rd. Ymgartrefodd y teulu ar Ynys Môn a dengys y llyfr log Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel Fab, iddo lwyddo yn ei Arholiad Ysgoloriaeth yng Ngorffennaf 1938. Yn y cyfnod hwn roedd yn byw mewn bwthyn bychan o'r enw Trefnant Bach gyda'i fam a'i lys-dad.[5] Parhaodd â'i astudiaethau yn Ysgol Ramadeg Biwmares, lle graddiodd yn 1942.[6] Ar ôl gadael yr Ysgol Ramadeg, cychwynodd brentisiaeth peirianneg gyda'r cwmni peirianneg awyr a môr Saunders-Roe yn Bae Fryars, Llanfaes, Ynys Môn, tua wyth milltir o Llanddaniel Fab.[7] Mae tystiolaeth iddo ddychwelyd i Ynys Môn o leiaf unwaith, ym mis Gorffennaf 1970[8].

Gyrfa awyrofod[golygu | golygu cod]

Y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod]

Ar ôl gwasanaethu am gyfnod yn y Llu Awyr Brenhinol (RAF), cafodd Roberts ei ryddhau yn 1944 ac ail-gychwynodd weithio gyda Saunders-Roe yn ei gweithfeydd yn Southampton, a chafodd ei drosglwyddo i Ynys Wyth yn 1946. Ar y pryd, roedd hefyd yn mynychu Prifysgol Southampton lle derbyniodd radd mewn Peirianneg Awyrennol yn 1948, a derbyniodd Wobr Arbennig y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol. Tra roedd gweithio i Saunders-Roe ar Ynys Wyth, cyfarfu â Doris Sprake ac fe briododd y ddau yn ddiweddarach.[9]

Canada[golygu | golygu cod]

Yn Rhagfyr 1952, symudodd Roberts a'i wraig o Loegr i Ganada pan gymerodd swydd gyda'r cwmni gweithgynhyrchu awyrennau Avro Canada ger Toronto.[10] Rhwng 1952 a 1959, roedd yn aelod o'r tîm peirianneg a ddatblygodd yr CF-105 Arrow,[11] awyren rhagodwr (interceptor) asgell ddelta hynod ddatblygedig.[12] Pan ganslwyd prosiect Avro Arrow yn sydyn gan llywodraeth Canada ar 20 Chwefror 1959, dilynodd nifer o beiriannwyr Avro Canada, yn cynnwys Roberts, arweiniaid Jim Chamberlin gan symud i'r Unol Daleithiau i ymuno â Grŵp Tasg Gofod (Space Task Group) NASA yng Nghanolfan Ymchwil Langley yn Hampton, Virginia.[13]

Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

Canolfan Ymchwil Langley[golygu | golygu cod]

Creuwyd Grŵp Tasg Gofod ym mis Tachwedd 1958, dan arweiniad Robert Gilruth a oedd yn gyfrifol am arolygu rhaglen teithio gofod yr Amerig, Prosiect Mercury, a chafodd y dasg o osod dyn mewn cylchdro o amgylch y Ddaear. O'r 37 peiriannydd gwreiddiol, roedd 27 o Ganolfan Ymchwil Langley a 10 wedi cael eu penodi o Ganolfan Ymchwil Lewis yn Cleveland, Ohio. Yn 1959, ehangwyd grŵp Gilruth yn sylweddol drwy ychwanegu y peirianwyr o Ganada a weithiodd ar brosiect Avro Arrow.[14]

Ymunodd Roberts â NASA ym mis Ebrill 1959,[15] yn un o 25 o beirianwyr a thechnegwyr a ddaeth o Avro Canada.[16][N 1] Rhoddwyd ef i weithio ar unwaith ar ffurfio y gofynion ar gyfer y rhwydwaith tracio a chyfathrebu, a'r Ganolfan Reoli Taith Mercury i ddarparu rheolaeth hedfan y teithiau.

Canolfannau Rheolaeth Teithiau[golygu | golygu cod]

Ail-gread o Rheolaeth Mercury gyda map yn dangos lleoliad gorsafoedd Mercury

Yn 1960,[18] daeth Roberts yn Swyddog Deinameg Hedfan cyntaf NASA[19] yng Nghanolfan Rheoli Mercury,[20] lle roedd ei waith yn canolbwyntio ar reoli llwybr y llong ofod a chynllunio addasiadau iddi.

Mae'n bosib fod Roberts wedi poblogeiddio y defnydd o'r ymadrodd "A-OK", gan wneud y tri llythyren yn symbol cyffredinol i olygu "mewn cyflwr perffaith."Nodyn:Dubious Mae'r defnydd dogfennol cyntaf o'r ymadrodd Saesneg "A-OK" wedi ei gynnwys o fewn memo from Tecwyn Roberts, Flight Dynamics Officer, to Flight Director (entitled "Report on Test 3805", dated 2 February 1961) in penciled notes on the countdown of MR-2, dated 31 January 1961.[21] Poblogeiddwyd yr ymadrodd gan Lt Col Llu Awyr U.D.A. John "Shorty" Powers pan oedd yn swyddog materion cyhoeddus NASA ar gyfer Prosiect Mercury.[22][23]

Yn 1962, penodwyd Roberts yn bennaeth Cangen Anghenion Canolfan Rheoli Taith, lle chwaraeodd ran allweddol yng ngwaith dylunio a datblygu pellach ar Ganolfan Reoli Mercury yn Cape Kennedy ac ar y Ganolfan Rheoli Taith yn ddiweddarach, a oedd yn rhan o Ganolfan Llongau Gofod â Chriw (Canolfan Ofod yn ddiweddarach) yn Houston, Texas, wedi i raglen teithio gofod â chriw NASA ei drosglwyddo yno yn 1961. Datblygwyd cysyniad NASA o Reoli Taith cyn hynny o dan arweiniad Christopher C. Kraft. Pan gymerodd Roberts ei swydd newydd, rhoddwyd ei hen swydd fel Swyddog Deinameg Hedfan i Glynn Lunney. Fel pennaeth y Gangen Anghenion Canolfan Rheoli Taith, roedd ei gyfrifoldebau yn cynnwys penderfynu, cydlynu a gweithredu yr holl ofynion dylunio ar gyfer y gwaith o adeiladu Canolfan Rheoli Taith newydd yn Houston. Am ei waith yn y maes hwnnw, derbyniodd Wobr Cyflawniad Eithriadol NASA.

Ar 21 Mai 1962, penodwyd Roberts yn bennaeth Adran Hedfan â Chriw yng Nghanolfan Hedfan Gofod Goddard yn Greenbelt, Maryland. Ar y pryd roedd Roberts a'i wraig hefyd yn byw yn Maryland. Ganed eu hunig blentyn, Michael tua 1960, a mynychodd Ysgol Uwchradd Spalding yn Severn, Maryland.

Canolfan Hedfan Gofod Goddard[golygu | golygu cod]

Ym mis Gorffennaf 1964, daeth Roberts yn Gynorthwy-ydd Technegol i Ddirprwy Gyfarwyddwr Cynorthwyol Systemau Tracio a Data yng Nghanolfan Hedfan Gofod Goddard, ac yn bennaeth yr Adran Peirianneg Hedfan a Chriw. Roedd hyn yn golygu fod Roberts yn gyfrifol am Rwydwaith Hedfan Gofod a Chriw NASA, casgliad o orsafoedd tracio a adeiladwyd i gefnogi ymdrechion gofod Americanaidd Mercury, Gemini, Apollo a Skylab. Roedd dau rwydwaith cyfathrebu arall yn y cyfnod hwn, y Spacecraft Tracking and Data Acquisition Network (STADAN) ar gyfer tracio lloerennau di-griw mewn cylchdro daear isel, a'r Deep Space Network (DSN) ar gyfer tracio teithiau di-griw mwy pellenig.

Yn 1964, cyflwynodd Dr Robert R. Gilruth, cyfarwyddwr y Ganolfan Ofod a Chriw[N 2] (chwith) yn wobr arian $1,000 a thystysgrif i Tecwyn Roberts (canol), gyda'i wraig Doris wrth ei ochr.

Hefyd yn Haf 1964, anrhydeddwyd ef gan Gilruth gyda Gwobr Gwasanaeth Arbennig NASA am ei gyfraniad i'r rhaglen hedfan gofod â chriw ym maes gweithrediadau hedfan. Roedd y wobr yn bennaf am ei waith yn pennu anghenion technegol y Ganolfan Hedfan Gofod â Chriw.[25]

Apollo Road - Y ffordd i Honeysuckle Creek.

Daeth Roberts yn bennaeth Adran Cefnogaeth Hedfan â Chriw yng Nghanolfan Hedfan Gofod Goddard yn ystod Rhaglen Apollo yn 1965. I gefnogi rhaglen Apollo, comisiynodd Goddard dri antena 85 troedfedd, (26 m) a fyddai'n cael eu gosod mewn bylchau cyfartal o amgylch y byd. Roedd y rhain yn Madrid (Sbaen), Goldstone yng Nghaliffornia (UDA) ac yn Honeysuckle Creek yn Awstralia. Roedd Roberts yn bresennol pan agorwyd Gorsaf Dracio Honeysuckle Creek gan Brif Weinidog Awstralia Harold Holt ar 17 Mawrth 1967.[26]

Yn ddiweddarach yn 1967, daeth Roberts yn Bennaeth yr Adran Beirianneg Rhwydwaith, yn ystod y cyfnod lle glaniodd gofodwyr ar y lleuad. Yn 1969, cafodd y Fedal Gwasanaeth Eithriadol NASA am ei waith yn cefnogi taith Apollo 8. Yn 1972, penodwyd Roberts yn Gyfarwyddwr Rhwydweithiau yn Nghanolfan Hedfan Gofod Goddard, swydd yr oedd ynddo erbyn amser Prosiect Prawf Apollo–Soyuz ym mis Gorffennaf 1975. Ei brif gyfrifoldeb yn y rôl hon oedd i sicrhau bod cysylltiad yn cael ei gynnal rhwng llongau gofod yr  Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd wrth iddynt gylchdroi'r ddaear. Hwn oedd ei gysylltiad uniongyrchol olaf gyda theithiau gofod â chriw gyda NASA.

Yn 1976, cafodd Roberts a Robert S. Cooper, Cyfarwyddwr y Ganolfan Hedfan Gofod Goddard, eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Astronotegol America.[27]

Ymddeol a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Yn 1979, ymddeolodd Roberts fel Cyfarwyddwr Rhwydweithiau yn Goddard ac o NASA a daeth yn ymgynghorydd i'r Bendix Field Engineering Corporation.

Ar 26 Tachwedd 1984, anrhydeddodd Canolfan Ofod Goddard grŵp o 34 o unigolion gan gynnwys Roberts gyda Urdd Teilyngdod Robert H. Goddard, y lefel uchaf o gydnabyddiaeth yr oedd Canolfan Ofod Goddard yn cyflwyno i'w gweithwyr.[28]

Bedair blynedd yn ddiweddarach, bu farw Tecwyn Roberts ar 27 Rhagfyr 1988, yn 63 mlwydd oed. Claddwyd ef ym Mynwent Esgobol St. Stephens, Crownsville, Maryland. Mae arysgrif ei garreg fedd yn dweud "Tecwyn Roberts, Husband of Doris & father of Michael".[29]

Gwobrau ac anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • 1964 Gwobr Gwasanaeth Eithriadol NASA
  • 1967 Gwobr Cyflawniad Eithriadol NASA
  • 1969 Medal Gwasanaeth Eithriadol NASA
  • 1976 Cymrawd o Gymdeithas Astronotegol America
  • 1980 Gwobr Gwasanaeth Nodedig NASA
  • 1984 Urdd Teilyngdod Robert H. Goddard

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pillinger, Colin. "Red, white and blue Moon." Times Higher Education, 16 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  2. Kranz 2000, tt. 40–41.
  3. "Tecwyn Roberts." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  4. rhosybol (2019-08-22). "TECWYN ROBERTS A RHOSYBOL". Rhosybol (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-12.
  5. "Stori Tecwyn Roberts" www.the-sweet-escape.co.uk Retrieved: 21 July 2022.
  6. "Roberts’ early years in Llanddaniel." llanddaniel.co.uk. Retrieved: 5 May 2011.
  7. "Roberts’ Engineering Apprenticeship with Saunders-Roe." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  8. rhosybol (2019-08-22). "TECWYN ROBERTS A RHOSYBOL". Rhosybol (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-12.
  9. "Roberts’ in Southampton and the Isle." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  10. Gainor 2001, tt. 44–45.
  11. Whitcomb 2001, p. 214.
  12. "Roberts’ with Avro Canada." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  13. Zuk 2001, t. 21.
  14. "Roberts in America's Space Task Group." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  15. Tsiao 2008, t. 138.
  16. Stewart 1991, t. 269.
  17. Gainor 2001, tt. 34–35.
  18. "Roberts interview." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  19. Kranz 2000, t. 17.
  20. "Mercury." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  21. “A OK” llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.Nodyn:Unreliable source
  22. "Calm Voice from Space." Archifwyd 2020-03-29 yn y Peiriant Wayback. Time, 2 Mawrth 1962. Cyrchwyd: 5 Mai 2011. (subscription required)(angen tanysgrifiad)
  23. Swenson, Loyd S. Jr.; Grimwood, James M.; Alexander, Charles C. (1989). "This New Ocean: A History of Project Mercury, Chap. 10: 'Ham Paves the Way'". Footnote 37. NASA (National Aeronautics and Space Administration). Cyrchwyd June 22, 2015. In reporting the Freedom 7 flight, the press attributed the term to Astronaut Shepard, ... A replay of the flight voice communications tape disclosed that Shepard himself did not use the term.. It was Col. John A. "Shorty" Powers ... Tecwyn Roberts of STG and Capt. Henry E. Clements of the Air Force had used "A.OK" frequently in reports written more than four months before the Shepard flight. ... Other sources claim that oldtime railroad telegraphers used "A-OK" as one of several terms to report the status of their equipment. Be that as it may, Powers, "the voice of Mercury Control," by his public use of "A.OK," made those three letters a universal symbol meaning "in perfect working order."
  24. "Johnson Space Center."[dolen marw] NASA. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  25. "Roberts at the Manned Flight Support Division." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  26. "Roberts at the Opening of Honeysuckle Creek Tracking Station." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  27. "Roberts at the Network Engineering Division." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  28. "Roberts at the Network Engineering Division." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.
  29. "Tecwyn Roberts dies." llanddaniel.co.uk. Cyrchwyd: 5 Mai 2011.

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Roedd cyfanswm o 32 staff Avro Canada wedi cychwyn am NASA ond yn y pendraw penderfynodd nifer gymryd swyddi gyda chwmnïau awyrofod fel Boeing, McDonnell Douglas a North American Aviation.[17]
  2. Daeth y NASA Manned Space Center yn Lyndon B. Johnson Space Center yn 1973.[24]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]