Tarrenhendre

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfesurynnau: 52°37′N 3°57′W / 52.62°N 3.95°W / 52.62; -3.95
Tarrenhendre

(Cadair Idris)
Y llwybr i Darrenhendre o gyfeiriad Abergynolwyn
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Y llwybr i Darrenhendre o gyfeiriad Abergynolwyn
Uchder (m) 634
Uchder (tr) 2080
Amlygrwydd (m) 199
Lleoliad rhwng Dolgellau a Machynlleth
Map topograffig Landranger 135;
Explorer 23W
Cyfesurynnau OS SH682041
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall
Tarrenhendre is located in Cymru
Tarrenhendre (Cymru)

Mynydd yn ne Gwynedd yw Tarrenhendre, weithiau Tarren Hendre; cyfeiriad grid SH682041. Saif ym mynyddoedd Cadair Idris, i'r de o Abergynolwyn ac i'r gogledd o bentref Pennal a'r briffordd A493. Mae copa Tarren y Gesail, sydd ychydig yn uwch, i'r gogledd-ddwyrain ohono. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 435metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Gellir ei ddringo a Abergynolwyn, ar hyd llwybr sy'n arwain trwy hen chwarel lechi Bryneglwys, neu o'r de o lwybr sy'n dechrau o'r ffordd gefn i'r gorllewin o Bennal.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 634 metr (2080 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]