Tarren y Gesail
![]() | |
Cyfieithiad | |
Iaith | Cymraeg |
Testun y llun | Copa Tarren y Gesail |
Uchder (m) | 668 |
Uchder (tr) | 2192 |
Amlygrwydd (m) | 463 |
Lleoliad | rhwng Dolgellau a Machynlleth |
Map topograffig | Landranger 124; Explorer 23W |
Cyfesurynnau OS | SH710058 |
Gwlad | Cymru |
Dosbarthiad | Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall |
Mynydd yn ne Gwynedd yw Tarren y Gesail. Saif i'r de-ddwyrain o Abergynolwyn ac i'r gogledd-orllewin o dref Machynlleth. Mae copa Tarrenhendre, sydd ychydig yn is, i'r de-orllewin ohono; cyfeiriad grid SH710058. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 204metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Gellir ei ddringo o Abergynolwyn, ar hyd llwybr sy'n arwain trwy hen chwarel lechi Bryneglwys. Mae'r goedwig drwchus ar ei lechweddau isaf yn gallu ei gwneud yn anodd cael hyd i'r llwybr cywir i'r copa.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 668 metr (2192 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 30 Mehefin 2007.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'