Tair Deddf Roboteg

Oddi ar Wicipedia
Tair Deddf Roboteg
Mae'r clawr hwn o I, Robot yn darlunio'r stori Runaround, y cyntaf i restru Tair Deddf Roboteg.
Enghraifft o'r canlynolcyfraith epigramatig Edit this on Wikidata
Mathrheol, deddfau roboteg Edit this on Wikidata
AwdurIsaac Asimov Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1942 Edit this on Wikidata

Set o reolau a ddyfeisiwyd gan yr awdur ffuglen wyddonol Isaac Asimov yw Tair Deddf Roboteg (neu Ddeddfau Asimov), deddfau i'r robotiaid eu cadw, mewn nifer o'i straeon. Cyflwynwyd y rheolau am y tro cyntaf yn ei stori fer 1942 "Runaround" (a gynhwyswyd yn y casgliad o storiau byrion a gyhoeddwyd yn 1950 I, Robot), er bod cyfyngiadau tebyg wedi'u hawgrymu mewn straeon cynharach gan yr awdur.

Y Deddfau[golygu | golygu cod]

Y Tair Deddf, a gyflwynwyd yn y "Llawlyfr Roboteg, 56ed argraffiad o'r flwyddyn 2058 OC", yw:[1]

  • Y Ddedf Gyntaf: Ni chaiff robot anafu bod dynol drwy iddo weithredu neu, trwy beidio a gweithredu, na chaniatáu i fod dynol gael ei frifo.
  • Yr Ail Ddeddf: Rhaid i robot ufuddhau i'r gorchmynion a roddir iddo gan fodau dynol ac eithrio lle byddai unrhyw orchymyn o'r fath yn gwrthdaro â'r Gyfraith Gyntaf.
  • Y Drydedd Deddf: Rhaid i robot amddiffyn ei fodolaeth ei hun cyn belled nad yw amddiffyniad o'r fath yn gwrthdaro â'r Ddeddf Gyntaf neu'r Ail Ddeddf.

Y defnydd mewn ffuglen[golygu | golygu cod]

Mae'r Tair Deddf yn ffurfio egwyddor a thema bwysig ar gyfer ffuglen sy'n seiliedig ar lenyddiaeth robotaidd Asimov, gan ymddangos yn ei gyfres ar y Robot, ac yn ei gyfres Lucky Starr sef ffuglen ar gyfer oedolion ifanc. Mae'r Deddfau wedi'u hymgorffori ym mron pob un o'r robotiaid positronig (y r ymennydd positronig oedd CPU y robot), sy'n ymddangos yn ei ffuglen, ac ni ellir eu hosgoi, gan eu bod wedi'u bwriadu fel dyfais ar gyfer diogelwch bodau dynol. Mae llawer o straeon Asimov sy'n canolbwyntio ar robotiaid yn ymwneud â robotiaid yn ymddwyn mewn ffyrdd anarferol a gwahanol o ganlyniad i'r modd y mae'r robot yn ystyried ac yn cymhwyso'r Tair Ddedf i'r sefyllfa y mae'n ei chael ei hun ynddi. Mae awduron eraill sy'n gweithio ym mydysawd ffuglen Asimov wedi eu mabwysiadu ac mae cyfeiriadau, parodig yn aml, yn ymddangos trwy lawer o ffuglenau gwyddonol yn ogystal ag mewn genres eraill.

Mae'r deddfau gwreiddiol wedi'u newid ac fe ymhelaethwyd arnynt gan Asimov ac awduron eraill. Gwnaeth Asimov ei hun addasiadau bach i'r tri cyntaf mewn gweithiau dilynol i ddatblygu sut y byddai robotiaid yn rhyngweithio â bodau dynol. Mewn ffuglen ddiweddarach lle'r oedd robotiaid wedi cymryd cyfrifoldeb am lywodraethu planedau cyfan a gwareiddiadau dynol, ychwanegodd Asimov hefyd bedair deddf, gan alw#r cyntaf yn sero, i ragflaenu'r lleill.

Mae'r Dair Ddeddf, a'r Seroth, wedi treiddio trwy ffuglen wyddonol a chyfeirir atynt mewn llawer o lyfrau, ffilmiau, a chyfryngau eraill. Maent hefyd wedi dylanwadu ar feddwl am foeseg deallusrwydd artiffisial.

Y Ddeddf gyntaf wedi'i haddasu[golygu | golygu cod]

Yn y stori Little Lost Robot (1947) mae sawl robot NS-2, neu "Nestor", yn cael eu creu gyda dim ond rhan o'r Ddeddf Gyntaf.[1] Mae'n darllen:

1. Ni chaniateir i robot anafu bod dynol.

Mae Gaia yn blaned gyda deallusrwydd cyfunol sy'n mabwysiadu deddf debyg i'r Ddeddf Gyntaf, a Deddf Seroth, fel ei hathroniaeth:

Ni chaniateir i Gaia anafu bywyd na chaniatau i fywyd gael ei anafu.

Deddf Seroth[golygu | golygu cod]

Ychwanegodd Asimov Ddeddf Seroth - a enwyd felly i barhau â'r patrwm lle mae deddfau â niferoedd is yn disodli'r deddfau â nifer uwch - gan nodi na ddylai robot niweidio pobl. Y cymeriad robotig R. Daneel Olivaw oedd y cyntaf i roi enw i'r Deddf Seroth, yn y nofel Robots and Empire;[2] fodd bynnag, mae'r cymeriad Susan Calvin yn mynegi'r cysyniad yn y stori fer " The Evitable Conflict".

Yn wreiddiol, lluniodd R. Daneel Olivaw y Ddeddf Seroth yn y nofel Foundation and Earth (1986) a'r nofel ddilynol Prelude to Foundation (1988):

Ni ddylai robot anafu dynoliaeth nac ychwaith, trwy ddiffyg gweithredu, ni ddylai ganiatáu i ddynoliaeth ddod i niwed.

Ychwanegwyd amod yn nodi na ddylid torri Deddf Zeroth at y Tair Deddf wreiddiol, er bod Asimov yn cydnabod yr anhawster y byddai deddfau o'r fath yn ei achosi yn ymarferol. Mae nofel Asimov Foundation and Earth (1986) yn cynnwys y darn canlynol:

Trevize frowned. "How do you decide what is injurious, or not injurious, to humanity as a whole?"

"Precisely, sir," said Daneel. "In theory, the Zeroth Law was the answer to our problems. In practice, we could never decide. A human being is a concrete object. Injury to a person can be estimated and judged. Humanity is an abstraction."

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Asimov, Isaac (1950). "Runaround". I, Robot (yn Saesneg) (arg. The Isaac Asimov Collection). New York City: Doubleday. t. 40. ISBN 978-0-385-42304-5. This is an exact transcription of the laws. They also appear in the front of the book, and in both places there is no "to" in the 2nd law.
  2. "Isaac Asimov". BBC. Cyrchwyd 11 November 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]