Ffugwyddoniaeth
Ffugwyddoniaeth yw rhywbeth sy’n ymddangos fel gwyddoniaeth heb adlynu at y dull gwyddonol.
Adnabod ffugwyddoniaeth
[golygu | golygu cod]Mae ffygwyddoniaeth yn cael ei nodweddu gan y canlynol;-
Diffyg cynnydd
[golygu | golygu cod]Ni fydd ymarferwyr ffugwyddoniaeth yn gwneud digon o arbrofion i weld a ydy eu syniadau yn ddibynnol ac fyddan nhw ddim yn cadw nodiadau digon manwl. Mae ganddyn nhw gymaint o ffydd yn eu damcaniaethau fel eu bod yn dueddol i beidio sylwi ar unrhyw beth amheus. Fe fyddan nhw'n gwrthod dysgu o’u profiadau, a ddim yn cywiro eu camgymeriadau. Mae yna ddiffyg symud ymlaen.
Defnyddio iaith gamarweiniol
[golygu | golygu cod]Fe fydd ffugwyddonydd yn creu geiriau mawr sy’n swnio’n dechnegol er mwyn twyllo’r rhai sydd ddim yn deall gwyddoniaeth. Galw dŵr yn "hidrogen deuocsid" er enghraifft.
Personolyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae yna glymbleidiaeth rhwng yr ymarferwyr, a maen nhw'n dueddol i gyrraedd at benderfyniadau direswm heb brofi eu syniadau. Fe fyddant yn cyhuddo gwyddonwyr o gynllwynio yn eu herbyn. Fe fyddant yn ystyried beirniaid fel gelynion ac yn eu sarhau yn bersonol.
Llinellau terfyn
[golygu | golygu cod]Mae llawer o ymryson dros y linell derfyn rhwng gwyddoniaeth a ffugwyddoniaeth. Mae ambell i ffugwyddonydd wedi darganfod pethau sy'n ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Alcemeg
- Creadaeth
- Cwacyddiaeth
- Cylchoedd cnwd (cylchau cnwd)
- Dadansoddiad seicolegol (seico-analysis)
- Ffrenoleg
- Soser hedegog
- Ofergoeliaeth
- Sêr-ddewiniaeth (astroleg)
- Symudiad parhaol