Soser hedegog

Oddi ar Wicipedia
Am y losinen, gweler soser hedegog (losinen).
Soser hedegog honedig a welwyd yn New Jersey, UDA, ym 1952.

Math o wrthrych hedegog anhysbys (UFO) yw soser hedegog sydd â siâp disg (megis soser) a gan amlaf yn fetelaidd ei golwg, ac weithiau gyda goleuadau arni neu yn pelydru ohoni. Mae rhai yn credu taw llongau gofod yn perthyn i fodau arallfydol yw soseri hedegog. Mae eraill yn credu bod esboniadau eraill y tu ôl iddynt, neu bod nifer ohonynt yn gastau.

Ceir cofnodion o wrthrychau hedegog â siâp disg ers yr Oesoedd Canol, ond bathwyd y term Saesneg flying saucer yn sgîl disgrifiad yr Americanwr Kenneth Arnold o wrthrychau hedegog anhysbys a welodd ar 24 Mehefin 1947. Ers profiad Arnold bu nifer fawr o bobl yn honni weld soseri hedegog ar draws y byd. Mae rhai yn defnyddio soser hedegog fel term cyffredinol am unrhyw UFO, ond ceir mathau eraill megis y triongl du.

Disgrifiodd un tyst "llestr mawr" yn yr awyr yn ystod Goleuadau Egryn (1904–5), dros ddeugain mlynedd cyn i'r term Saesneg flying saucer gael ei fathu.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Mihangel Morgan. Adolygiad o Yr Ymwelwyr gan Richard Foxhall. gwales.com. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2011.