Stanisław Lem
Stanisław Lem | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Stanisław Herman Lem ![]() 12 Medi 1921 ![]() Lviv ![]() |
Bu farw | 27 Mawrth 2006 ![]() o methiant y galon ![]() Kraków ![]() |
Man preswyl | Kraków, Fienna, Lviv ![]() |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl ![]() |
Addysg | Absolutorium ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, awdur ysgrifau, dychanwr, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, futurist, ysgrifennwr, bardd, meddyg, ymchwilydd, dramodydd ![]() |
Adnabyddus am | Solaris, Summa Technologiae, The Star Diaries, Fiasco ![]() |
Arddull | llenyddiaeth ffuglen wyddonol, ffuglen wyddonol, Dyfodoleg, dychan, athroniaeth ![]() |
Tad | Samuel Lem ![]() |
Priod | Barbara Lem ![]() |
Plant | Tomasz Lem ![]() |
Perthnasau | Henryk Hescheles, Marian Hemar, Janina Altman ![]() |
Gwobr/au | Knight of the Order of the White Eagle, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Gwobr Franz Kafka, Grand Prix de Littérature Policière, Work Flag Order, 2nd class, Cadlywydd Urdd Polonia Restituta, Swyddog yn Urdd y Polonia Restituta, Croes Aur am Deilyngdod, honorary citizen of Kraków, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Geffen Award, Urdd Polonia Restituta, Order of the Banner of Work, Cross of Merit, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow ![]() |
Gwefan | https://lem.pl ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Llenor Pwylaidd oedd Stanisław Lem (12 Medi 1921 – 27 Mawrth 2006) sydd yn nodedig am ei nofelau a straeon byrion gwyddonias a'i ysgrifau ar amryw bynciau gan gynnwys athroniaeth a dyfodoleg.
Ganed ef yn Lwów yng Ngweriniaeth Gwlad Pwyl (bellach Lviv, Wcráin), i deulu o dras Iddewig. Meddyg oedd ei dad. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, wedi i'r Undeb Sofietaidd feddiannu Lwów, astudiodd Stanisław feddygaeth yn Athrofa Feddygol Lvov o 1940 i 1941, cyn i'r Almaen Natsïaidd gipio'r ddinas gan darfu ar ei addysg. Dychwelodd at ei gwrs wedi i'r Sofietiaid ail-gipio Lwów ym 1944. Wedi i'r ddinas gael ei gyfeddiannu'n rhan o Wcráin ym 1946, symudodd Lem i Kraków yng Gweriniaeth Pobl Pwyl i barhau â'i astudiaethau ym Mhrifysgol Jagiełło. Nid oedd am gael ei alw i'r fyddin, i dderbyn comisiwn am oes, wedi iddo ennill ei radd, ac o'r herwydd gwrthododd sefyll ei arholiadau terfynol.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Człowiek z Marsa ("Dyn o Fawrth", 1946), mewn penodau yn y cylchgrawn wythnosol Nowy Świat Przygód. Tra'n gweithio fel cynorthwywr ymchwil o 1947 i 1950, cyhoeddodd hefyd farddoniaeth, straeon byrion, a thraethodau ar bynciau gwyddonol. Gan amlaf, ni fyddai'r llywodraeth gomiwnyddol yng Ngwlad Pwyl yn sensora ffuglen wyddonol, ond gwaharddwyd un o'i weithiau cynnar, Szpital Przemienienia ("Ysbyty'r Gweddnewidiad") rhag cael ei chyhoeddi am saith mlynedd. Ym 1950, comisiynwyd Lem gan y cwmni cyhoeddi Czytelnik yn Warsaw i ysgrifennu nofel wyddonias arall, a'r honno, Astronauci ("Gofodwyr", 1951), oedd ei gyfrol gyntaf. Mae'r gweithiau hyn yn cynnwys elfennau o Realaeth Sosialaidd, yr athrawiaeth gelfyddydol swyddogol yn y bloc Dwyreiniol. Dyma'r cyfnod i Lem benderfynu bod yn awdur llawn-amser, ond yn ddiweddarach yn ei yrfa byddai'n beirniadu ei weithiau cynnar am fod yn rhy syml a chonfensiynol.[1]
Yn sgil diwygiadau Hydref 1956 yng Ngwlad Pwyl, câi Lem fwy o ryddid wrth lenydda. Rhennir ei ffuglen yn gyffredinol yn ddwy genre: ffuglen wyddonol draddodiadol, sydd yn ymwneud â thechnoleg, teithio i'r gofod, ac estroniaid, er enghraifft Eden (1959), Powrót z gwiazd ("Dychwelyd o'r Sêr", 1961), Solaris (1961), Niezwyciężony ("Anorchfygol", 1964), Głos pana ("Llais y Meistr", 1968), ac Opowieści o pilocie Pirxie ("Hanesion y Peilot Pirx", 1968); a ffuglen ddamhegol iasoer, gan gynnwys Dzienniki gwiazdowe ("Dyddlyfrau'r Sêr", 1957), Pamiętnik znaleziony w wannie ("Dyddiadur a Ganfuwyd yn y Baddon", 1961), a Cyberiada ("Seiberiad", 1965).
Bu farw Stanisław Lem yn Kraków o fethiant y galon yn 84 oed.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Stanisław Lem. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mawrth 2022.
- Beirdd Pwylaidd yr 20fed ganrif
- Beirdd Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg
- Beirniaid llenyddol Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg
- Genedigaethau 1921
- Llenorion ffuglen wyddonol Pwylaidd
- Llenorion straeon byrion Pwylaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion straeon byrion Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg
- Marwolaethau 2006
- Nofelwyr Pwylaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg
- Pobl o Lviv
- Pobl fu farw o fethiant y galon
- Pwyliaid Iddewig
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Pwylaidd yr 20fed ganrif
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg