Sorgwm deuliw
Sorgwm deuliw Carpodacus erythrinus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Teulu: | Poaceae |
Genws: | sorgwm Sorghum |
Rhywogaeth: | Sorghum bicolor |
Enw deuenwol | |
Sorghum bicolor Sorghum bicolor Cyfystyron:
|
Mae Sorgwm deuliw (Lladin: Sorghum bicolor) yn rhywogaeth o laswellt sy'n cael ei gynaeafu am ei rawn (yr had), ac a ddefnyddir fel bwyd pobol, anifeiliaid, ac i gynhyrchu ethanol. Tarddodd Sorgwm yn Affrica, ac mae bellach yn cael ei dyfu'n helaeth mewn rhanbarthau trofannol ac isdrofannol.[2] Sorgwm yw'r pumed grawnfwyd pwysicaf y byd ar ôl reis, gwenith, indrawn a haidd, gyda 59.34 miliwn o dunelli metrig yn cael ei gynhyrchu'n fyd-eang yn flynyddol yn 2018.[3]
Mae S. bicolor fel arfer yn blanhigyn unflwydd, ond mae rhai mathau'n lluosflwydd. Tyf mewn clystyrau a all gyrraedd dros 4m o uchder. Gall y grawn amrywio o 2 i 4 mm mewn diamedr. Tyfir Sorgwm melys (math arall o Sorgwm) yn bennaf ar gyfer porthiant anifeiliaid, cynhyrchu surop, ac ethanol; maent yn dalach na'r rhai sy'n cael eu tyfu am rawn.[4][5]
Cynhaeafu
[golygu | golygu cod]Prif gynhyrchwyr S. bicolor yn 2011 oedd Nigeria (12.6%), India (11.2%), Mecsico (11.2%), ac Unol Daleithiau America (10.0%). Mae Sorghum yn tyfu mewn ystod eang o dymheredd, uchder ac mewn priddoedd gwenwynig, a gall adfer tyfiant ar ôl rhywfaint o sychder. Mae ganddo bum nodwedd sy'n ei gwneud yn un o'r cnydau mwyaf gwrthsefyll, mewn cyfnod o sychder:
- Mae ganddo gymhareb arwynebedd gwraidd-i-ddeilen fawr iawn.
- Ar adegau o sychder, mae'n rholio ei ddail i leihau colli dŵr trwy drydarthiad.
- Os bydd sychder yn parhau, mae'n mynd i gysgu yn hytrach na gwywo.
- Mae ei ddail yn cael eu gwarchod gan gwtigl cwyraidd.
- Mae'n defnyddio gosodiad carbon C4 gan ddefnyddio traean o ddŵr yn unig.
Ni ellir bwyta Sorghum oni bai bod y masgl anhydrin (neu'r plisg) yn cael ei dynnu. Yn ystod y fasnach gaethweision drawsatlantig, "yr unig ffordd i gael gwared ar y masg oedd â llaw, gyda morter a phestl, neu ddwy garreg.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r dystiolaeth archeolegol cyntaf o sorgwm yn Nabta Playa ar lan afon y Nîl Uchaf, c. 8000 CC. Fodd bynnag, mae'r rhain yn sorgwm gwyllt, gyda grawn bach a rachis brau. Credir bod Sorgwm wedi'i ddofi o'r Sorghum verticilliform gwyllt rhwng 7000 a 5000 CC, efallai yn nyffryn Afon Niger.[6][7][8]
Mae botanegwyr yn ei rannu'n bum math:
- durra, a ddatblygwyd yn India
- gini, amrywiaeth o Orllewin Affrica sydd angen llawer o law
- caudatwm, wedi'i dyfu gan bobloedd Nilo-Sahara rhwng Llyn Chad ac Ethiopia
- kafir, math sy'n gwrthsefyll sychder a dyfir yn Ne Affrica
- y deuliw / bicolor, y grawn mwyaf cyffredin.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sorghum bicolor (L.) Moench — The Plant List". www.theplantlist.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-13. Cyrchwyd 2021-02-27.
- ↑ Dillon, Sally L.; Shapter, Frances M.; Henry, Robert J. et al. (1 Medi 2007). "Domestication to Crop Improvement: Genetic Resources for Sorghum and Saccharum (Andropogoneae)". Annals of Botany 100 (5): 975–989. doi:10.1093/aob/mcm192. PMC 2759214. PMID 17766842. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2759214.
- ↑ "FAOSTAT". www.fao.org. Cyrchwyd 2020-09-27.
- ↑ "Grassland Index: Sorghum bicolor (L.) Moench". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-19. Cyrchwyd 2021-02-27.
- ↑ "Sweet Sorghum". Sweet Sorghum Ethanol Producers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-28. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2012.
- ↑ Cumo, Christopher (June 30, 2015). Foods that Changed History: How Foods Shaped Civilization from the Ancient World to the Present: How Foods Shaped Civilization from the Ancient World to the Present. ABC-CLIO. ISBN 9781440835377 – drwy Google Books.
- ↑ Cumo, Christopher Martin (25 Ebrill 2013). Encyclopedia of Cultivated Plants: From Acacia to Zinnia [3 volumes]: From Acacia to Zinnia. ABC-CLIO. ISBN 9781598847758 – drwy Google Books.
- ↑ Smith, C. Wayne; Frederiksen, Richard A. (25 Rhagfyr 2000). Sorghum: Origin, History, Technology, and Production. John Wiley & Sons. ISBN 9780471242376 – drwy Google Books.
- ↑ Ehleringer, James R.; Cerling, Thure; Dearing, M. Denise (30 Mawrth 2006). A History of Atmospheric CO2 and Its Effects on Plants, Animals, and Ecosystems. Springer Science & Business Media. ISBN 9780387270487 – drwy Google Books.
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Crop Wild Relatives Inventory[dolen farw]
- "Taxon: Sorghum bicolor (L.) Moench subsp. bicolor - information from National Plant Germplasm System/GRIN". Germplasm Resources Information Network (GRIN): GRIN Taxonomy for Plants. Beltsville Area, USA: United States Department of Agriculture Agricultural Research Service. 2008-03-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2008-12-12.