Skyfall
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Sam Mendes |
Cynhyrchydd | Michael G. Wilson Barbara Broccoli |
Ysgrifennwr | Neal Purvis Robert Wade John Logan |
Serennu | Daniel Craig Javier Bardem Judi Dench Ralph Fiennes Naomie Harris Bérénice Lim Marlohe Albert Finne |
Cerddoriaeth | Thomas Newman Skyfall wedi'i pherfformio gan Adele |
Sinematograffeg | Roger Deakins |
Golygydd | Stuart Baird Kate Baird |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Eon Productions Danjaq LLC |
Amser rhedeg | 143 munud |
Gwlad | DU |
Iaith | Saesneg |
Ffilm James Bond yw Skyfall a ryddhawyd ym mis Hydref 2012. Dyma yw'r 23ain ffilm yn y gyfres o ffilmiau a chafodd ei chynhyrchu gan Eon Productions a'i dosbarthu gan MGM a Sony Pictures Entertainment.[1] Dyma'r drydedd ffilm i serennu Daniel Craig fel James Bond, a chwaraeir rhan Raoul Silva, dihiryn y ffilm, gan Javier Bardem. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Sam Mendes a chafodd ei hysgrifennu gan John Logan, Neal Purvis a Robert Wade.
Yn y ffilm, mae Bond yn ymchwilio i ymosodiad ar MI6; daw yn amlwg fod yr ymosodiad yn ymosodiad rhannol ar M gan gyn-ysbïwr MI6, Raoul Silva. Yn y ffilm hefyd, cawn ein hail-gyflwyno i gymeriadau Q, a chwaraeir gan Ben Whishaw a Miss Moneypenny, a chwaraeir gan Naomie Harris. Dyma oedd y ffilm olaf hefyd i Judi Dench chwarae rôl M, rôl y mae hi wedi bod yn chwarae yn y saith ffilm flaenorol. Yn ei lle, bydd Ralph Fiennes yn chwarae rhan Gareth Mallory, sydd yn cymryd swydd M.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Eon Productions, Metro-Goldwyn-Mayer Studios, and Sony Pictures Entertainment Announce 7th November is Start of Production", 3 Tachwedd 2011, o wefan Sony Pictures. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2011