Naomie Harris
| Naomie Harris | |
|---|---|
| Ganwyd | Naomie Melanie Harris 6 Medi 1976 Llundain |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
| Tad | Brian Clarke |
| Mam | Lisselle Kayla Harris |
| Gwobr/au | OBE |
Mae Naomie Melanie Harris[1] (ganed 6 Medi 1976)[1] yn actores Seisnig. Chwaraeodd wrach fwdw Tia Dalma yn Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest a Pirates of the Caribbean: At World's End, Selena yn 28 Days Later, a Winnie Mandela yn Mandela: Long Walk to Freedom. Chwaraeodd Eve Moneypenny yn y ffilmiau James Bond Skyfall a Spectre.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Harris ar 6 Medi 1976 yn Llundain, lle fe'i magwyd, a lle mynychodd Ysgol St. Marylebone. Graddiodd o Goleg Penfro, Caergrawnt yn 1998 gyda gradd mewn Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol. Daw ei mam, Lisselle Kayla, o Jamaica yn wreiddiol, a daw ei thad o Drinidad.[2] Gwahaniaethant cyn a anwyd Harris, a fe'i magwyd gan ei mam. Gweithiodd ei mam fel sgrin-awdur ar EastEnders, ac erbyn hyn mae'n gweithio fel iachawraig.[3] Hyfforddodd Harris yn Ysgol Theatr yr Old Vic ym Mryste.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Mae Harris wedi ymddangos mewn rhaglenni teledu a ffilmiau ers iddi fod yn naw mlwydd oed, gan gynnwys rôl serennu yn ailwampiad y gyfres ffuglen wyddonol The Tomorrow People.[5] Ym mis Tachwedd 2002, serennodd yn ffilm ôl-apocalyptaidd Danny Boyle 28 Days Later.[1] Yn yr un flwyddyn, serennodd yn addasiad teledu Zadie Smith o White Teeth.[6] Ers hynny, mae Harris wedi ymddangos yn Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest, Pirates of the Caribbean: At World's End a Miami Vice Michael Mann.[1] Ymddangosodd hefyd yn ffilm annibynnol Michael Winterbottom, A Cock and Bull Story.[7] Serennodd yn addasiad Channel 4 o'r nofel Poppy Shakespeare, a ddangoswyd am y tro cyntaf ar 31 Mawrth, 2008. Ymddangosodd yn nrama hanesyddol y BBC Small Island ym mis Rhagfyr 2009.[8][9]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Harris wedi bod mewn perthynas gyda Peter Legler ers 2012.[10]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rôl | |
|---|---|---|---|
| 2001 | Crust | Ysgrifenyddes | |
| 2002 | Living In Hope | Ginny | |
| 2002 | Anansi | Carla | |
| 2002 | 28 Days Later | Selena | |
| 2004 | Trauma | Elisa | |
| 2004 | After the Sunset | Sophie | |
| 2006 | Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest | Tia Dalma | |
| 2006 | Miami Vice | Y Ditectif Trudy Joplin | |
| 2006 | A Cock and Bull Story | Jennie | |
| 2007 | Pirates of the Caribbean: At World's End | Tia Dalma/Calypso | |
| 2008 | Street Kings | Linda Washington | |
| 2008 | Explicit Ills | Jill | |
| 2008 | August | Sarah | |
| 2009 | Morris: A Life with Bells On | Sonja | |
| 2009 | Ninja Assassin | Mika Coretti | |
| 2009 | Sex & Drugs & Rock & Roll | Denise | |
| 2009 | My Last Five Girlfriends | Gemma | |
| 2010 | The First Grader | Jane Obinchu | |
| 2012 | Skyfall | Eve Moneypenny | |
| 2013 | Mandela: Long Walk to Freedom | Winnie Mandela | |
| 2015 | Southpaw | Angela Rivera | |
| 2015 | Spectre | Eve Moneypenny | |
| 2016 | Our Kind of Traitor | Gail Perkins | |
| 2016 | Moonlight | Paula | |
| 2016 | Collateral Beauty | Madeleine | |
| 2018 | Rampage | Dr. Kate Caldwell | Ôl-gynhyrchu |
| 2018 | Mowgli | Raksha (llais) | Ôl-gynhyrchu |
Teledu
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1987–1988 | Simon and the Witch | Joyce | 12 pennod |
| 1989 | Erasmus Microman | Millie | 1 bennod |
| 1992–1993 | Runaway Bay | Shuku | 17 pennod |
| 1992–1995 | The Tomorrow People | Ami Jackson | 16 pennod |
| 2000 | Dream Team | Lola Olokwe | 1 bennod |
| 2002 | Trial & Retribution V | Tara Gray | 1 bennod |
| 2002 | White Teeth | Clara | 4 pennod |
| 2002 | The Project | Maggie Dunn | |
| 2002–2003 | Dinotopia | Romana | 2 bennod |
| 2008 | Poppy Shakespeare | Poppy Shakespeare | |
| 2009 | Small Island | Hortense Roberts | |
| 2009 | Blood and Oil | Alice Omuka | |
| 2010 | Accused | Alison Wade | 1 bennod |
Gemau fideo
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rôl |
|---|---|---|
| 2010 | Fable III | Page |
| 2012 | 007 Legends | Eve Moneypenny |
Theatr
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rôl |
|---|---|---|
| 2000 | The Witch of Edmonton | Susan Carter |
| 2011 | Frankenstein | Elizabeth Lavenza |
Gwobrau ac enwebiadau
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Gwobr | Categori | Gwaith | Canlyniad |
|---|---|---|---|---|
| 2003 | Golden Nymph | Perfformiad Gorau gan Actores | White Teeth | Enwebwyd |
| 2004 | Black Reel Awards | Best Breakthrough Performance | 28 Days Later | Enillodd |
| 2007 | Gwobrau BAFTA | Rising Star | Enwebwyd | |
| 2010 | Gwobrau Satellite | Actores Orau mewn Mini-gyfres | Small Island | Enwebwyd |
| 2011 | Gwobrau Glamour | Actores Theatr y Flwyddyn | Frankenstein | Enillodd |
| 2012 | Black Reel Awards | Actores Orau | The First Grader | Enwebwyd |
| 2013 | Gwobrau Essence | Shining Star Award | Skyfall | Enillodd |
| 2014 | London Film Critics Circle Awards | Actores Gefnogol Orau | Mandela: Long Walk to Freedom | Enwebwyd |
| 2014 | London Film Critics Circle Awards | Actores Brydeinig y Flwyddyn | Enwebwyd | |
| 2014 | Gwobrau NAACP | Actores Gefnogol Orau | Mandela: Long Walk to Freedom | Enwebwyd |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).[dolen farw]
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).[dolen farw]
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ "Actress Naomie Harris and boyfriend Peter Legler, dating since 2012, caught showing PDA, rumors they might get married". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-08. Cyrchwyd 2015-12-30.