Siboleth

Oddi ar Wicipedia

Siboleth (shibboleth) yw unrhyw arfer neu draddodiad, fel arfer rhyw ddewis o frawddeg neu hyd yn oed o air, sy'n gwahaniaethu un grŵp o bobl oddi wrth grŵp arall. Defnyddiwyd sibolethau trwy gydol hanes mewn nifer o gymdeithasau fel cyfrineiriau, ffyrdd syml o hunan-adnabod, signalau teyrngarwch a chysylltiad, cynnal arwahanu traddodiadol, neu amddiffyn rhag bygythiadau.

Tarddiad[golygu | golygu cod]

Mae'r term yn tarddu o'r gair Hebraeg shibbólet (שִׁבֹּלֶת)  sy'n llythrennol yn golygu y rhan o blanhigyn sy'n cynnwys grawn, fel pen coesyn o wenith neu ryg;[1] neu'n llai cyffredin "llifogydd, cenllif".[2][3]

Mae'r defnydd modern yn deillio o gyfrif yn y Beibl Hebraeg, lle defnyddiwyd ynganiad o'r gair hwn i wahaniaethu Effraimiaid, a oedd yn defnyddio cytsain gyntaf wahanol yn ei dafodiaith ac felly oedd y gair yn swnio'n wahanol. Mae'r gwahaniaeth yn ymwneud â'r llythyren Hebraeg shin, sydd bellach yn cael ei ynganu fel [ʃ] (fel siarad yn Gymraeg).[4] Yn Llyfr y Barnwyr, pennod 12, ar ôl i drigolion Gilead o dan orchymyn Jephtha curo llwyth Effraim yn filwrol (tua 1370–1070 CC), ceisiodd yr Effraimiaid a oroesodd groesi'r Afon Iorddonen er mwyn mynd yn ôl i'w cartref. Ond gwaith y Gileadiaid ei hatal. Er mwy gallu adnabod a lladd yr Effraimiaid hyn, gorfododd y Gileadiaid i'r goroeswyr dweud y gair siboleth. Oherwydd tafodiaith yr Effraimiaid byddant yn ynganu'r gytsain gyntaf fel [s] (fel s Cymraeg arferol).

Defnydd modern[golygu | golygu cod]

Mae un o drigolion New Orleans yn herio pobl o du allan i'r ddinas wrth iddo brotestio yn erbyn cael gwared ar Gofeb Robert E. Lee yn 2017. Byddai eu hanallu i ynganu "Tchoupitoulas Street" fel y bobl leol yn siboleth a'u nodi fel pobl o'r tu allan.

Mewn defnydd modern, gall siboleth cael ystyr gymdeithasegol, yn cyfeirio at unrhyw air neu ymadrodd mewn-grŵp a all wahaniaethu rhwng aelodau a phobl o'r tu allan - hyd yn oed os nad oes teimladau drwg rhwng y grwpiau.[5] Weithiau fe'i defnyddir mewn ystyr ehangach i olygu jargon, y mae ei ddefnydd priodol yn nodi siaradwyr fel aelodau o grŵp neu isddiwylliant penodol.

Gellir ymestyn y term siboleth, fel yn nisgyblaeth semioteg, i ddisgrifio elfennau an-ieithyddol diwylliant fel diet, ffasiwn a gwerthoedd diwylliannol. Gall profion litmws diwylliannol a phrofiadau a rennir hefyd fod yn sibolethau o fath. Er enghraifft, mae pobl tua'r un oed sydd o'r un genedl yn tueddu i fod â'r un atgofion o ganeuon poblogaidd, sioeau teledu, a digwyddiadau o'u blynyddoedd cynnar. Mae'r un peth yn wir am gyn-fyfyrwyr ysgol benodol, cyn-filwyr gwasanaeth milwrol, a grwpiau eraill. Gall mewn-jôcs fod yn fath tebyg o siboleth profiadau a rennir.

Mewn technoleg gwybodaeth mae siboleth yn gyfrinair ledled y gymuned sy'n galluogi aelodau'r gymuned honno i gael mynediad at adnodd ar-lein heb ddatgelu eu hunaniaeth unigol. Gall y serfiwr gwreiddiol adnabod y defnyddiwr unigol heb roi unrhyw wybodaeth adnabod bellach i'r serfiwr targed.[6] Yn y modd yma nid yw'r defnyddiwr unigol yn gwybod y cyfrinair a ddefnyddir mewn gwirionedd - mae'n cael ei gynhyrchu'n fewnol gan y serfiwr - ac felly ni all cael ei fradychu i bobl o'r tu allan.


Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Mae sibolethau wedi cael eu defnyddio gan wahanol isddiwylliannau ledled y byd ar wahanol adegau. Mae gwahaniaethau rhanbarthol, lefel arbenigedd, a thechnegau codio cyfrifiadurol yn sawl ffurf y mae sibolethau yn ymddangos:

  • Yn ôl y chwedl, cyn y frwydr Guldensporenslag ym mis Mai 1302, fe wnaeth y bobl Fflemeg ladd pob Ffrancwr y gallant nhw ddod o hyd iddo yn ninas Brugge. Gelwir hwn y Brugse Metten.[7] Fe wnaethant adnabod Ffrancwyr ar sail eu hanallu i ynganu'r ymadrodd Fflemeg "schild en vriend" (tarian a ffrind), neu efallai "'s Gilden vriend" (ffrind i'r urdd).
  • Mae "bûter, brea, en griene tsiis; wa't dat net sizze kin, is gjin oprjochte Fries" yn golygu "menyn, bara rhyg a chaws gwyrdd, mae pwy bynnag na all ddweud hwn ddim yn Ffriseg go iawn" ac fe'i defnyddiwyd gan y Pier Gerlofs Donia yn ystod y gwrthryfel Ffriseg (1515–1523). Roedd y llongau na all eu criw ynganu hyn yn gywir fel arfer yn cael eu hysbeilio, a milwyr na all ei ynganu eu lladd gan Donia ei hun.[8]
  • Ym mis Hydref 1937, defnyddiwyd y gair Sbaeneg am bersli, "perejil", fel siboleth i adnabod mewnfudwyr o Haiti oedd yn byw ar hyd y ffin yng Ngweriniaeth Dominica. Gorchmynnodd llywydd Gweriniaeth Ddominica, Rafael Trujillo, ddienyddiad y bobl hyn. Honnir i rhwng 20,000 a 30,000 o unigolion gael eu llofruddio o fewn ychydig ddyddiau, a elwir y Gyflafan Persli. Mae ysgolheictod diweddar a diffyg tystiolaeth yn rhoi’r cyfanswm gwirioneddol yn agosach at 1,000.[9]
  • Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiodd rhai o filwyr yr Unol Daleithiau yn theatr y Môr Tawel y gair lollapalooza fel siboleth i adnabod pobl anhysbys, ar y rhagdybiaeth bod pobl Japan yn aml yn ynganu'r llythyren L fel R neu'n drysu'r llythrennau R ac L.[10] Mae straeon o bobl yn cael ei saethu'n syth os na allant ynganu'r gair yn gywir.[11]
  • Yn ystod terfysgoedd Gorffennaf Du yn Sri Lanca ym 1983, cyflafanwyd nifer o bobl Tamilaidd gan bobl ifanc Sinhalaidd. Mewn nifer o'r achosion roedd y cyflafanau hyn ar fysiau, lle gofynnwyd i deithwyr ynganu geiriau a oedd yn dechrau gyda ⟨ba⟩ caled ar ddechrau'r gair (fel "baldiya" - bwced). Dienyddiwyd y bobl a oedd yn cael trafferth gyda'r ynganiad.[12][13]
  • Yn ystod Yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon, roedd defnyddio'r enw Derry neu Londonderry ar gyfer dinas ail-fwyaf y dalaith yn aml yn cael ei gymryd fel arwydd o safiad gwleidyddol y siaradwr.[14] Mae ynganiad enw'r llythyren H yn siboleth hefyd, gyda'r Catholigion yn ei ynganu fel "haitch" a Phrotestaniaid yn aml yn ynganu'r llythyren yn wahanol.[15]
  • Yng Nhwlen, siboleth cyffredin i wahaniaethu rhwng rhywun a anwyd yng Nghwlen gan rywun sydd wedi symud yno yw gofyn "Saag ens 'Blodwoosch'" (dywedwch "selsig gwaed", yn nhafodiaith Cwlen). Fodd bynnag, mae'r cwestiwn yn dric, bydd unrhyw un sy'n ceisio ateb yn cael ei gydnabod fel Imi, dynwaredwr neu rywun o dramor. Yr ateb cywir yw dweud gair gwahanol yn gyfan gwbl, "Flönz", y gair tafodiaith Cwlen arall am selsig gwaed.
  • Mae pobl o'r Iseldiroedd yn defnyddio enw tref lan môr Scheveningen fel siboleth i wahaniaethu'r Almaenwyr o'r bobl Iseldiroedd (yn Iseldireg ynganir "sch" fel y llythyren "s" ac wedyn "ch" ([sx]), tra yn Almaeneg fe'i hynganir fel [ʃ]).[16][17][18]
  • Yn Sweden ynganir y clwstwr cytsain ⟨rs⟩ fel [ʂ], ond yn nhalaith Småland mae'n cael ei ynganu [s] . Mae'r dydd Iau cyntaf ym mis Mawrth yn cael ei ddathlu yn Småland gyda marsipán, gan fod hyn yn tynnu sylw at y siboleth: "massipan i fössta tossdagen i mass", ond mewn mannau eraill yn Sweden "marsipan i första torsdagen i mars".

Sibolethau cudd[golygu | golygu cod]

Gall siboleth adnabod unigolyn fel rhan o grŵp, nid yn seiliedig ar eu gallu i ynganu un neu fwy o eiriau, ond ar eu gallu i adnabod ymadrodd sy'n ymddangos yn ddiniwed fel neges gyfrinachol. Er enghraifft, weithiau mae aelodau Alcoholics Anonymous yn cyfeirio at eu hunain fel "ffrind i Bill W.", sy'n gyfeiriad at sylfaenydd AA, William Griffith Wilson. Efallai i bobl nad yw'n aelod byddai hyn yn ymddangos fel sylw diniwed, ond byddai aelodau eraill yr AA yn deall ei ystyr.[19]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gall morwr hoyw o'r Unol Daleithiau alw ei hun yn "ffrind i Dorothy", cydnabyddiaeth i'r berthynas ystrydebol i Judy Garland yn The Wizard of Oz.[20][21] Yn yr un modd, roedd rhai dynion hoyw ym Mhrydain ddefnyddio'r iaith cant Polari.[22]

Mae "Pedwar ar Ddeg Gair", "14", neu "14/88" yn sibolethau a ddefnyddir ymhlith goruchafiaethwyr gwyn.[23]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cf. Isaiah 27:12.
  2. Speiser, E.A. (February 1942). "The Shibboleth Incident (Judges 12:6)". Bulletin of the American Schools of Oriental Research (University of Chicago Press) 85 (85): 10–13. doi:10.2307/1355052. JSTOR 1355052. https://archive.org/details/sim_bulletin-of-the-american-schools-of-oriental-research_1942-02_85/page/10.
  3. Hendel, Ronald S. (February 1996). "Sibilants and šibbōlet (Judges. 12:6)". Bulletin of the American Schools of Oriental Research (University of Chicago Press) 301 (301): 69–75. doi:10.2307/1357296. JSTOR 1357296. https://archive.org/details/sim_bulletin-of-the-american-schools-of-oriental-research_1996-02_301/page/69.
  4. Richard Hess; Daniel I. Block; Dale W. Manor (12 January 2016). Joshua, Judges, and Ruth. Zondervan. t. 352. ISBN 978-0-310-52759-6.
  5. Mcnamara, Tim (2005-11-01). "21st Century Shibboleth: Language Tests, Identity and Intergroup Conflict" (yn en). Language Policy 4 (4): 351–370. doi:10.1007/s10993-005-2886-0. ISSN 1573-1863.
  6. Dorman, David (October 2002). "Technically Speaking: Can You Say "Shibboleth"?". American Libraries (American Library Association) 33 (9): 86–7. JSTOR 25648483. https://archive.org/details/sim_american-libraries_2002-10_33_9/page/86..
  7. Devries, Kelly. Infantry Warfare in the Early 14th Century. N.p.: Boydell, 1996. Print.
  8. "Greate Pier fan Wûnseradiel" (yn Western Frisian). Gemeente Wûnseradiel. Cyrchwyd 2008-01-04.CS1 maint: unrecognized language (link)
  9. Vega, Bernardo (10 October 2012). "La matanza de 1937". La lupa sin trabas (yn Spanish). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 December 2013. Cyrchwyd 7 January 2014. Durante los meses de octubre y diciembre de 1937, fuentes haitianas, norteamericanas e inglesas ubicadas en Haití dieron cifras que oscilaron entre 1,000 y 12,168CS1 maint: unrecognized language (link)
  10. US Army & Navy, 1942. HOW TO SPOT A JAP Educational Comic Strip, (from US govt's POCKET GUIDE TO CHINA, 1st edition). Retrieved 10-10-2007
  11. Gramling, Oliver (1942). Free Men are Fighting: The Story of World War II. Farrar and Rinehart, Inc. t. 315. Cyrchwyd 17 February 2018.
  12. Hyndman, Patricia. "-Democracy in Peril, June 1983". Lawasia Human Rights Standing Committee Report -Democracy in Peril, June 1983. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2020-10-21.
  13. "Passport to life". Daily News. Daily News (Sri Lanka's state broadsheet). Cyrchwyd 27 April 2015.
  14. "Court to rule on city name". BBC News. 7 April 2006. Cyrchwyd 30 November 2015.
  15. Dolan, T. P. (1 January 2004). A Dictionary of Hiberno-English: The Irish Use of English. Gill & Macmillan Ltd. ISBN 9780717135356. Cyrchwyd 3 September 2016.
  16. "Zonder ons erbij te betrekken" Retrieved on 23 december 2011
  17. Corstius, H. B. (1981) Opperlandse taal- & letterkunde, Querido's Uitgeverij, Amsterdam. Retrieved on 23 december 2011
  18. McNamara, Tim (2005). "21st century shibboleth: language tests, identity and intergroup conflict". Language Policy 4 (4): 351–370. doi:10.1007/s10993-005-2886-0.
  19. "What is Friends of Bill W. on a Cruise?". cruisecritic. Cyrchwyd 19 January 2019.
  20. "'Conduct Unbecoming': In Defense of Gays on the Front Line". Los Angeles Times (yn Saesneg). 1993-03-29. Cyrchwyd 2019-09-04.
  21. Shilts, Randy (1993). Conduct Unbecoming: Gays & Lesbians in the U.S. Military. New York: St. Martin's Press. t. 387. ISBN 0-312-34264-0.
  22. Hensher, Philip (22 June 2019). "Polari, the secret gay argot, is making a surprising comeback". The Spectator.
  23. Ridgeway, James (2008-10-28). "US elections: Fourteen Words that spell racism". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-17.