Pier Gerlofs Donia
Jump to navigation
Jump to search
Môr-leidr enwog o Frisia oedd Pier Gerlofs Donia (c.1480–1520). Mae'n fwyaf adnabyddus yn ôl ei ffugenw Ffriseg Gorllewinol, "Grutte Pier" ("Pier Mawr" yn y sillafiad Hen Friseg), neu yn ôl y cyfieithad Iseldireg "Grote Pier" a "Lange Pier", neu, yn Lladin, "Pierius Magnus", a oedd yn cyfeirio at ei faint a'i gryfder chwedlonol.