Sheng

Oddi ar Wicipedia
Sheng
Enghraifft o'r canlynoliaith Edit this on Wikidata
MathEnglish-based creole languages Edit this on Wikidata

Mae Sheng yn dafodiaeth neu'n iaith-gymysg o Swahili a Saesneg a ddatblygodd ymysg trigolion ardaloedd tlawd a torfol Nairobi, prifddinas Cenia. Fe'i dylanwadwyd gan ieithoedd eraill Cenia a siaradwyd yn y treflannau. Mae'r iaith wedi ymestyn bellach ar draws pob dosbarth cymdeithasol ac i Tansanïa ac Wganda. Mae'n anodd diffinio ai iaith neu datodiaith yw Sheng neu iaith neu creole neu cant neu iaith yn ei datblygiad.

Etymoleg a Hanes[golygu | golygu cod]

Matatu yn Nairobi
Cael lifft mewn Matatu, Cenia

Cysylltair yw "Sheng" o'r ddwy iaith y mae'n tynnu arno, sefl: Swahili a English. Cynhwyswyd yr "h" yn y canol achos byddai "Seng" yn swnio'n od. Er gwaetha'r honiad o ddylanwad Saesneg yn yr iaith, prin iawn yw hynny yw weld i siaradwr Saesneg.

Datblygodd yr iaith yn yr 1950au yn ardal Eastlands o ddinas Nairobi (ardal a ddisgrifir fel "slum", "ghetto" neu "suburb"). Clywir Sheng bellach ymysg gyrwyr tacsi-fws matatu yr ardal, yn y cyfryngau poblogaidd. Mae'r iaith wedi ymledu drwy gerddoriaeth pop. Gellir disgwyl ei bod bellach yn iaith gyntaf i nifer, er bod hyn yn anodd ei gadarnhau.

Iaith pobl ifanc yw Sheng ac mae'n rhan o'r diwylliant poblogaidd yn y wlad. Ddefnyddiwyd hi mewn cerddoriaeth hip hop ac artistiaid fel Kalamashaka a G.rongi yn ardal y Llynoedd Mawr (Great Lakes) yn yr 1990au. Caiff ei defnyddio bellach ymysg myfyrwyr prifysgol ac ysgol. Nododd cyflwynwyr radio megis John Karani, Jeff Mwangemi a Prince Otach, tŵf a defnydd o'r iaith a dechruon nhw gynnwys yr iaith yn eu rhaglenni radio gan ddefnyddio termau Sheng ar radio cenedlaethol Cenia. Erbyn 2010 roedd bron pob fath o gyfryngau yn gwneud rhyw fath o ddefnydd o Sheng.

Ar 50 mlwyddiant annibyniaeth Cenia, nodwyd "nad oedd modd bod yn cŵl oni bai bod nhw'n siarad Sheng" a nodir fod yr iaith yn "fygythiad i Sasneg a Swahili"[1]

Er bod gramadeg, geirfa, cystrawen a llawer o eirfa Sheng yn deillio o Swahili, mae Sheng hefyd yn benthyg o ieithoedd eraill Cenia megis Luhya, Gikuyu, Luo a Kamba.[2] Ceir hefyd rhai geiriau nad sy'n dod o'r Saesneg na'r ieithoedd brodorol, megis y gair "morgen" a ddaw o'r Almaeneg am 'bore' ac a ddefnyddir mewn ffordd tebyg o ran cyfarch i'r Almaeneg.

Gall geirfa Sheng amrywio'n fawr o fewn is-grwpiau a grwpiau ethnig Cenia ac ardal y Llynnoedd Mawr a hyd yn oed rhwng gymunedau o fewn Nairobi. Bydd llawer o bobl ifanc Nairobi yn defnyddio Sheng fel ei hiaith bod dydd yn hytrach na Swahili neu Saesneg. Gellir ystyried Sheng yn fersiwn neu ddatblygiad cyfoes ar yr iaith Swahili. Cofier fod Swahili ei hun wedi datblygu fel iaith rhyng-ethnig gan gyfuno Arabeg a ieithoedd Bantu Affricanaidd.

Gwybodaeth am natur Sheng[golygu | golygu cod]

Cafwyd cyfeiriad byr ar bodlediad Localisation Africa yn 2022.[3]

Sheng mewn Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Prin iawn yw'r enghreifftiau o lenyddiaeth mewn Sheng. Un o'r ychydig lyfrau yn yr iaith yw'r llyfr gyntaf mewn Sheng, "Lafudhi hip hop poetry in Sheng" a ysgrifennwyd gan G.rongi, ac a gyhoeddwyd yn 2015.

Tafodieithoedd Affrica Drefol[golygu | golygu cod]

Mae'r ffenomenon sy'n gyrru datblygiad koine fel Sheng - mudiad pobloedd yn siarad ieithoedd Bantw gwahanol; creu iaith ieuenctid neu gudd-iaith, yn digwydd ar draws sawl lle yn Affrica. Un enghraifft enwog yw'r 'tafodiaith' a elwir yn Tsotsitaal oedd yn seiliedig ar ramadeg Afrikaans yn Ne Affrica ond sydd bellach wedi edwino ac, yn ei le, mae koine arall sef isiCamtho.

Geirfa syml[golygu | golygu cod]

  • Mam = masa
  • Tâd = mbuyu
  • Arian = bakes oder chapaa
  • Cerddoriaeth = flava oder mahewa
  • Rwy'n dy garu di = nimekunoki
  • Tŷ = keja
  • Dosbarth, Ysgol = aladhe
  • Heddwas = mahindra / ponye

Ymadroddion[golygu | golygu cod]

Sheng Cymraeg
Huu msee ni fala! Mae'r boi yna'n idiot!
Si unidungie chuani? Gelli di roi pum deg Shilling i fi?
Ule dame amechapa! Mae'r ferch yna'n hyll!
Maisha ni gweng bana. Mae bywyd yn anodd, ddyn.
Alirauka gware ndo asihate mat za kwenda kwao moshatha. Deffrodd yn gynnar er mwyn peidio colli y matatu i'w gartref gwledig.

Darllen Pellach[golygu | golygu cod]

  • Abdulaziz, Mohamed H. and Ken Osinde. 1997. Sheng and Engsh: development of mixed codes among the urban youth in Kenya. International Journal of the Sociology of Language 125 (Sociolinguistic Issues in Sub-Saharan Africa), pp. 45–63.
  • Bosire, Mokaya. 2006. Hybrid languages: The case of Sheng. Selected Proceedings of the 36th Annual Conference on African Linguistics, ed. Olaoba F. Arasanyin and Michael A. Pemberton, 185-193. Somerville, MA: Cascadilla Proceedings Project.
  • Fee, D., & Moga, J. 1997. Sheng dictionary.Third edition. Nairobi: Ginseng Publishers.
  • Githinji, Peter. 2005. Sheng and variation: The construction and negotiation of layered identities. PhD dissertation, Michigan State University.
  • Githinji, Peter. 2006. Bazes and Their Shibboleths: Lexical Variation and Sheng Speakers’ Identity in Nairobi. Nordic Journal of African Studies 15(4): 443–472.
  • Githiora, Chege. 2002. Sheng: peer language, Swahili dialect or emerging Creole? Journal of African Cultural Studies Volume 15, Number 2, pp. 159–181.
  • Kang’ethe, Iraki. 2004. Cognitive Efficiency: The Sheng phenomenon in Kenya. Pragmatics 14(1): 55–68.
  • Kießling, Roland & Maarten Mous. 2004. Urban Youth Languages in Africa. Anthropological Linguistics 46(3): 303-341
  • Mazrui, Alamin. 1995. Slang and Codeswitching: The case of Sheng in Kenya. Afrikanistische Arbeitspapiere 42: 168–179.
  • Ogechi, Nathan Oyori. 2002. Trilingual Codeswitching in Kenya – Evidence from Ekegusii, Kiswahili, English and Sheng. Doctoral dissertation, Universität Hamburg.
  • Ogechi, Nathan. 2005. On Lexicalization in Sheng. Nordic Journal of African Studies 14(3): 334–355.
  • Samper, David. 2002. Talking Sheng: The role of a Hybrid Language in the Construction of Identity and Youth Culture in Nairobi Kenya. PhD Dissertation, University of Pennsylvania.
  • Spyropoulos, Mary. 1987. Sheng: some preliminary investigations into a recently emerged Nairobi street language. Journal of the Anthropological Society 18 (1): 125-136.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.youtube.com/watch?v=2CFs6qcCJU8
  2. https://www.anthro.ox.ac.uk/sites/default/files/anthro/documents/media/jaso18_2_1987_125_136.pdf
  3. "copi archif". podledad Africa's LSP. 23 Mawrth 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-25. Cyrchwyd 2022-06-01.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]