Sgwrs Defnyddiwr:BrahmsFan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Shwmae, BrahmsFan! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Welcome message in English
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,452 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 15:52, 4 Awst 2021 (UTC)[ateb]

Norwy[golygu cod]

Diolch am gyfrannu at yr erthygl ar Norwy. Dw i'n siŵr bod gen ti wybodaeth gwerthfawr i'w rhannu. Yn anffodus, rwyt ti wedi dileu'r gwybodlen newydd a roddodd Llywelyn2000 ar y tudalen yn 2018 ac wedi rhoi gwybodlen o'r hen fath yn ei lle. Mewn gwirionedd, dylen ni ddefnyddio gwybodlen o'r steil newydd, sy'n tynnu gwybodaeth o Wicidata ac felly'n diweddaru ystadegau ac ati yn awtomatig. Does dim digon o olygyddion yma eto i gadw'r pethau hyn yn gyfredol. Hefyd, mae'n well cadw'r gwybodlenni'n gyson ar draws yr holl wledydd. Ydy'n bosibl iti dynnu'r wybodaeth rwyt ti'n meddwl oedd ar goll o'r gwybodlen fel y bu a'i rhoi yng nghorff yr erthygl? Ac yna adfer y gwybodlen fel yr oedd cyn dy olygiadau? Tipyn o niwsans dw i'n gwybod, ond byddwn i'n gwerthfawrogi hynny. --Craigysgafn (sgwrs) 18:08, 7 Awst 2021 (UTC)[ateb]