Sgwrs Defnyddiwr:Cloddiwr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Shwmae, Cloddiwr! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,396 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 12:43, 26 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]

Gwiro'r ystadegau[golygu cod]

Pa hwyl, gyfaill? Pan gei di bum munud, wnei di wiro fod yr ystadegau cywir gen i yn fama (Google Docs). Diolch am dy gymorth. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:56, 17 Mai 2013 (UTC)[ateb]

Beth sy'n aneglur gen i ydy dy frawddeg: Unwaith eto! Mae'r ganran sy'n gallu siarad Cymraeg yn gywir... Yr hyn wyt ti'n ei ddweud ydy fod y wybodaeth ar docs yn gywir? Os felly, carwn greu'r graffiau ym mhob erthygl ar gymuned. Neu a ydw i yn dy gamddeall? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:38, 18 Mai 2013 (UTC)[ateb]

Pentrefi Cymru[golygu cod]

Haia. Yn dilyn dy gyfraniad gwych efo Cymunedau Cymru, dw i wedi fy ysbarduno i fynd gam ymhellach a llenwi'r bylchau efo gweddill y pentrefi sydd eu hangen. Cymer olwg ar Defnyddiwr:Llywelyn2000/Rhestr trefi a phentrefi yng Nghymru; Os wyt yn dymuno mi wna i ddanfon dolen i Gwgl doc, neu'n well byth at y feil Excel (er mwyn cadw'r acen grom). Wyt ti gem? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:49, 31 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Mae gwaith ar droed a allai olygu ein bod yn dyblygu ymdrechion gyda hyn. Er hynny, gan fy mod yn awyddus datblygu fy sgiliau, rwyf wedi cymryd y doc Gwgl ges i gennyt o'r blaen ac rwyf wrthi'n ei gysoni gyda data http://data.ordnancesurvey.co.uk/datasets/50k-gazetteer. Os llwyddaf, bydd hynny'n golygu y bydd modd cymharu'r cyfeirnod grid sy gyda ti â'r cyfeirnodau grid sydd gan yr OS (am yr un lleoedd - i fod). Rhannaf y Gwgl doc gyda ti pan fydd yn barod. Cloddiwr (sgwrs) 23:01, 2 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Bendigedig. Os wyt yn y steddfod, cysyllta efo fi am sgwrs. Mae hyn yn swnio'n wych. Mi ataliaf, felly, rhag gwneud rhagor o waith. Ydy'r colofnau sydd gen i yn y ddolen uchod (Defnyddiwr:Llywelyn2000/Rhestr trefi a phentrefi yng Nghymru) yn cydfynd gyda'r rhai a roddais i ti? Os cofiaf yn iawn, dw i hefyd wedi ychwanegu Cyfeirnod OS yn yr un diweddaraf. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:57, 4 Awst 2013 (UTC)[ateb]