Sgwrs:Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsile

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Sillafiad enw'r wlad[golygu cod]

Ai Tsile yw'r sillafiad Cymraeg go iawn? Mae S4C a BBC Cymru Fyw yn defnyddio Chile. Beth mae'r Atlas Cymraeg yn ei ddweud? Blogdroed (sgwrs) 11:31, 7 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Nage; mae'r rhestr rydym yn ei dderbyn ar y Wicipedia Cymraeg yng ngholofn olaf y tabl Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg - Chile, ar hyn o bryd. @Craigysgafn: - cyn mynd ati i newid enwau gwledydd, mae angen trafodaeth ac mae croeso i ti wneud cynnig a chawn drafodaeth yn dilyn hynny, a chonsensws barn. Fe weli fod na drafodaethau wedi bod yn frith drwy WP, ond yma'n bennaf: Sgwrs:Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. Dw i'n gweld hefyd fod yr enw Chile wedi newid i Tsili gan Adam - oes na drafodaeth ar hyn, Adam, rhag ofn mod i wedi colli / anghofio rhywbeth? Y sgwrs diwethaf i ni ei gael, hyd y gwelaf, oedd hwn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:23, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Does unrhyw farn gref fy hun am sut y dylid sillafu enwau gwledydd. Ond dw i'n credu y dylen nhw fod yn gyson. "Chile" neu "Tsile", does dim ots i mi. Ond yr un neu'r llall.--Craigysgafn (sgwrs) 08:48, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Tydw i erioed wedi bod yn ffan mawr o Ts yn lle Ch - Mae'r BBC yn defnyddio Chile [gweler rhaglen Benbaladr ar Radio Cymru https://www.bbc.co.uk/programmes/p066vvlf] - maent hefyd yn sillafu China efo Ch os yw hynny'n rhyw fath o gynsail? Blogdroed (sgwrs) 11:32, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Nid oes gennyf farn gref am y naill sillafiad na'r llall. O ran defnyddio Ts yn lle Ch Saesneg, rwy'n hen gyfarwydd â Tsiena o emynyddiaeth yr ysgol Sul, ond mae Tsili yn edrych yn od (a Tsile yn anghywir). Os oes wahanol ffurf i ysgrifennu gair mae'n braf dod i gonsensws sy'n rhoi cysondeb i'r safle. Pwysicach byth yw cael tudalennau ail-gyfeirio i sicrhau bod y sawl sy'n chwilio am dîm Tsili neu dîm Chile / Chili yn canfod yr erthygl (a dim yn sgwennu erthygl ar wahan am yr un pwnc o dan bennawd gwahanol). AlwynapHuw (sgwrs) 15:06, 9 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Mae Tsile yng Ngeiriadur yr Academi, ond yn ail ddewis ar ôl Chile. Symudais popeth i Tsile er mwyn cael cysondeb â'r categorïau am bobl y wlad (Categori:Tsileaid). Mae Tsile yn adlewyrchu'r ynganiad Sbaeneg yn well na Tsili: ˈtʃile yn hytrach na ˈtʃɪli (sef yr ynganiad Saesneg). Yn wir byddai "Tsîle" (gydag acen ar yr i) yn ffordd well o ysgrifennu'r enw yn Gymraeg, ond nid oes enghreifftiau o'r ffurf honno yn ôl chwiliad Google. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:02, 9 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
I ail adrodd. Dibwys yw dadlau am y sillafiad "cywir", byddwn yma hyd Sul y Pys heb ddod i gytundeb. Dyma wychder gwyddoniadur ar y wê, does dim angen gwybod nad Ellis Humphrey Evans, yw teitl yr erthygl rwyt yn chwilio amdano! Os mae Chile yw'r consensws - gwych! Ond mae angen i bobl canfod yr erthygl o dan Tsili, Chili a Tsile! AlwynapHuw (sgwrs) 04:21, 10 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Pwyntiau da gan bawb, yn enwedig am bwysigrwydd yr ailgyfeirio. Gan mai 'Chile' sydd gennym ar y rhestr, ac na chafwyd trafodaeth cyn ei newid, a hefyd, gan mai 'Chile' yw dewis cyntaf Geiriadur yr Academi (a dyna yw ein prif ganllaw) yna 'Chile' amdani! Yn bersonnol, fel y dywed Alwyn, mae Tsieina'n hollol dderbyniol, ond mae rhywbeth yn chwithig am Tsile (i mi). O gadw 'Chile', mae gwahaniaethu gyda'r planhigyn 'tsili' yn glir ac yn amlwg. Gawch i ni adael y drafodaeth ar agor am wythnos, rhag ofn bod sylwadau eraill. A diolch i Blogdroed am godi'r mater. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:03, 10 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
@Blogdroed, AlwynapHuw, Adda'r Yw, Adam, Craigysgafn, Stefanik: O ail-ddarllen yr uchod, mae gan Adda'r Yw (Adam) ddau bwynt pwysig: mai 'e' yw'r lythyren olaf (hyn yn cael ei barchu gan y sillafiad 'Chile', wrth gwrs) a'r categoriau! Os cadw at 'Chile', yna ai, felly 'Chileiaid'? A'r ansoddair 'Chileaidd'? Person o Chile: 'Chilewr'?Llywelyn2000 (sgwrs) 07:51, 28 Mai 2019 (UTC)[ateb]
A tra 'dych chi'n newid Tsile i Chile, mi â'i i ddiweddaru erthygl Ch i'r byd cael gwybod bod ch yn Gymraeg erbyn hyn weithiau hefyd yn cael ei ynganu fel /ts/. Mae hyn yn newyddion mawr. Datganiad i'r wasg? --Cymrodor (sgwrs) 08:50, 28 Mai 2019 (UTC)[ateb]
Rydw i o blaid Tsile, ond os oes consensws yn ei erbyn ni wnaf stŵr amdani. Mae'n werth nodi bod Geiriadur Prifysgol Cymru yn dilyn yr arfer o Gymreigio'r cenedligrwydd (Tsilead a Tsileaidd) ond nid enw'r wlad (a sillefir Chile yn y diffiniadau). Sylwch hefyd bod yr erthygl Wicipedia Roberto Bolaño wedi ei nodi fel ffynhonnell o ddefnydd "Tsilead" – pleser i weld bod yr ysgolheigion yn ein cydnabod yn rhan o gorpws yr iaith Gymraeg. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:52, 28 Mai 2019 (UTC)[ateb]

Tsile amdani felly! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:35, 6 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]