Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsile
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Tsile (Sbaeneg: Selección de fútbol de Chile) yn cynrychioli Tsile yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Tsile (FFC), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FFC yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed De America, CONMEBOL (Sbaeneg: Confederación Sudamericana de Fútbol, Portiwgaleg: Confederação Sul-Americana de Futebol).
Mae La Roja (yr un coch), wedi ymddangos yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar naw achlysur gan orffen yn drydydd ym 1962 pan cynhaliwyd y bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain.