Ch

Oddi ar Wicipedia
Ch

Pedwaredd llythyren yr wyddor Gymraeg yw Ch.

Mae'r llythyren "Ch" yn Gymraeg yn cael ei ynganu fel "[χ]" yn IPA.

Mae'n debyg i'r un lythyren yn Almaeneg yng ngeiriau "auch", "doch", ayyb.

Yn Saesneg a Sbaeneg, ynganer y llythyrennau "ch" ychydig fel "ts". Arferai "Ch" yn Sbaeneg fod yn un llythyren, mewn geiriaduron ayyb (fel yn Gymraeg), ond newidiwyd hyn yn ddiweddar, ac mae'n ddwy lythyren nawr. Mae'r llythyren "J" yn Sbaeneg (a "G" cyn "E" neu "I") yn cael ei ynganu fel "Ch" yn Gymraeg.

Mae "Ch" yn yr Eidaleg yn cael ei ynganu fel "C" yn Gymraeg.

Gair Eidaleg Sut i'w ddweud
Chi fel "Ci" yn Gymraeg
Ci "tshi"

Gwelir bod hon yn wrthwyneb o'r ddefnydd Saesneg.