Sgwâr Al-Manara
Delwedd:Al-Manara2009.JPG, دوار المنارة.jpg | |
Math | sgwâr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ramallah |
Gwlad | Palesteina |
Cyfesurynnau | 31.905°N 35.2044°E |
Mae Sgwâr Al-Manara ( yn sgwâr tref sydd wedi'i leoli yn Ramallah, yn Lan Orllewinol, Palestina. Mae wedi cael ei alw'n "un o fannau cyhoeddus enwog Palestina." [1] Yn y sgwar hwn y saif Tŵr Cloc Manara.
Hanes
[golygu | golygu cod]Hanes cynnar
[golygu | golygu cod]Hyd at ddiwedd y 19g, roedd safle Sgwâr al-Manara ar lwybr dibwys a oedd yn cysylltu Ramallah â thref gyfagos al-Bireh. Gyda sefydlu Ysgol Bechgyn y Cyfeillion ger y safle ym 1901 ac yn ddiweddarach ei dyfarnu'n dref gan yr Otomaniaid, daeth Ramallah yn ganolfan weinyddol ym 1902, lledwyd y ffordd a daeth yn ganolbwynt pwysig yn yr ardal.
Erbyn 1905 roedd ffordd newydd yn cysylltu Nablus â Jerwsalem yn pasio trwy Sgwâr al-Manara ac adeiladwyd adeilad Saraya, a oedd yn gartref i'r weinyddiaeth Otomanaidd leol, 250 metr i ffwrdd.[1]
Ym 1918, ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Otomanaidd, sefydlodd y Deyrnas Unedig yr hyn a elwir yn Balesteina dan Fandad gan ddynodi Ramallah yn brifddinas eu hardal weinyddol . Ym 1935 cysylltwyd Ramallah ac al-Bire2h cyfagos â'r grid trydan a gosodwyd switsfwrdd trydanol sy'n rheoli'r goleuadau stryd ar bolyn aac a alwyd yn "al-Manara" neu "Y Goleudy." Yn ystod gwrthryfel Arabaidd 1936–1939 ym Mhalestina adeiladodd awdurdodau Prydain y Muqata'ah a charchar 800 metr o al-Manara, lle mae'r ddau yn dal i sefyll.[1]
Ehangwyd y ffyrdd sy'n arwain at al-Manara i gynnwys y Muqata'a. Parhaodd y seilwaith o amgylch y sgwâr i wella tan Ryfel Arabaidd-Israel 1948 a arweiniodd at ecsodus Palestina o'r titoedd a ddygwyd gan Israel. Gwelodd ardal Ramallah fewnlifiad mawr o ffoaduriaid a arweiniodd at gynnydd mewn gweithgareddau gwleidyddol a chymdeithasol yn y ddinas.[1]
Ym 1951, yn ystod rheolaeth Gwlad Iorddonen o'r Lan Orllewinol, disodlwyd y polyn trydan gan heneb a gynigiwyd gan gomisiynydd Ramallah (Jalil M. Badran) ac a ddyluniwyd gan yr arlunydd Ramallah. Roedd yr heneb yn cynnwys pum llew ar biler carreg wedi'i amgylchynu gan ffynhonnau a gwelyau blodau.[1] Disgrifiwyd y llewod cerrig a ddefnyddir ar yr heneb fel "symbolau traddodiadol o ddewrder, pŵer a balchder."[2] Roedd y pum llew yn cynrychioli trigolion gwreiddiol Ramallah, pum teulu o'r enw Ibrahim, Jerias, Shqair, Hassan a Haddad. Roedd pob un o'r pum teulu hyn yn ddisgynyddion teulu Rashid al-Haddadin, a ymfudodd i Ramallah yn yr 16g o ardaloedd Al-Karak a Shoubak yn yr Iorddonen.[3]
Goresgyniad Israel
[golygu | golygu cod]Cipiodd Israel Ramallah yn ystod y Rhyfel Chwe Diwrnod ym 1967, diswyddwyd y cyngor lleol a gosod llywodraethwr milwrol Iddewig i oruchwylio materion yr ardal. Yn 1982 cyhoeddodd rheolwr Israel Moshe Biton archddyfarniad i ddymchwel Sgwâr Al-Manara a storiwyd yr heneb mewn trysorlys trefol. Gwrthdystiodd y Palestiniaid yn erbyn goresgyniad Israel gan brotestio, a gwelwyd cryn anufudd-dod sifil yn ystod yr Intifada Cyntaf.[1]
Ar 10 Hydref 1987, saethodd milwyr Israel un ddynes yn farw ac anafwyd pedwar protestiwr heddychlon yn y sgwâr.[4] Parhaodd gwrthdystiadau, gan gynnwys streic siopwyr, yn y sgwâr rhwng 1987 a 1993 pan adawodd milwyr Israel y ddinas, oherwydd yr Oslo Accords.[1][5]
Rheolaeth Palestina
[golygu | golygu cod]Dychwelodd gweinyddiaeth y ddinas yn ôl i ddwylo'r awdurdodau Paleseinaidd ac ailgodwyd yr heneb Al-Manara ar y safle blaenorol, y tu mewn i gylch traffig. Wrth i boblogaeth Ramallah dyfu, gan arwain at broblemau traffig, ailadeiladwyd Al-Manara sawl gwaith.
Ym 1999, penododd y fwrdeistref bensaer o Loegr i ailadeiladu'r heneb ar sail y dyluniad gwreiddiol. Cynrychiolwyd tri theulu arall yn y cerfluniau: al-Ajlouni, Hishmah, ac al-Araj. Coronwyd yr heneb gyda lamp wedi'i chyfeirio i fyny i'r awyr, a gallwyd gweld ei golau fel colofn, yn cyrraedd cyn belled â deg cilomedr i fyny. Gorffennwyd yr heneb ym mis Gorffennaf 2000.[1] Yn ystod yr Ail Intifada (2000-2007) saethwyd cydweithredwr Israelaidd yn ei ben yn y sgwâr.[6]
Mae'r sgwâr yn parhau i gael ei ddefnyddio fel man protestio yn erbyn gweithredoedd dinistriol a milwrol Israel ac weithiau yn erbyn rhai arweinwyr Palestesteinaidd. Yn 2007 torrodd heddlu Palesteina brotestiadau yn erbyn cynhadledd heddwch y Dwyrain Canol yn Annapolis.[7] Yn 2009 a 2010 roedd protestiadau ardal Ramallah yn erbyn Rhyfel Gaza i'w gweld yma yn Sgwâr al-Manara.
Yn gynnar yn 2011 sefydlodd protestwyr yn galw am roi diwedd ar y rhaniad rhwng Fatah a Hamas babell yn Sgwâr al-Manara.[8] Yn 2011 protestiodd Palesteiniaid drwy godi pabell yn y sgwâr lle roedd mwy na deg o Balesteiniaid yn cymryd rhan mewn streic newyn mewn cydymdeimlad â 6,000 o garcharorion Arabaidd a Palesteina a oedd wedi bod ar streic newyn yng ngharchardai Israel.[9][10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Adania Shibli, Al-Manara Square: Monumental Architecture and Power, The Jerusalem Quarterly, Spring, 2006.
- ↑ Meredith Buel, Palestinian Cabinet Resigns Amid Calls for Political Reform in West Bank, GlobalSecurity.org, February 14, 2011.
- ↑ Qaddourah, Y. Tarikh Madinat Ramallah (New York: Al Hoda Printing, 1954).
- ↑ Dr. Mazin Qumsiyeh, Shepherds' nights, Israeli troops and more, Salem-News.com, December 9, 2011.
- ↑ The Palestinians Belittle U.s. Role, New York Times, June 22, 1990.
- ↑ Nigel Craig Parsons, The politics of the Palestinian Authority: from Oslo to al-Aqsa, Psychology Press, 2005, p 147, ISBN 0-415-94440-6, ISBN 978-0-415-94440-3
- ↑ 'Right time' to pursue Mid-East peace: Bush, ABC News Australia, November 28, 2011.
- ↑ Amira Hass, Many Palestinians think Fatah-Hamas unity efforts distract from the occupation, Haaretz, April 3, 2011.
- ↑ Saud Abu Ramada, Emad Drimly, Int'l group members join hunger strike of Palestinian prisoners, Xinhua News Agency, October 10, 2011.
- ↑ See also Al-Manara Square March 17 video, Youtube.com, 2011; video of protesters in solidarity with prisoner hunger strikers.