Al-Karak
Math | dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 21,678 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Veliko Tarnovo, Veliko Tarnovo Municipality ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Lywodraethol Karak ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 765 km² ![]() |
Uwch y môr | 930 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 31.1833°N 35.7°E ![]() |
![]() | |
Mae al-Karak ( Arabeg: الكرك), a elwir hefyd yn Karak neu Kerak, yn ddinas yng Ngwlad Iorddonen sy'n adnabyddus am ei chastell y Croesgadau, sef Castell Kerak. Mae'r castell yn un o'r tri chastell mwyaf yn y rhanbarth, gyda'r ddau arall yn Syria. Al-Karak yw prifddinas Ardal Lywodraethol Karak.
Lleolir al-Karak 140 kilometre (87 mi) i'r de o Amman ar Briffordd Hynafol y Brenin. Saif y ddinas ar ben bryn tua 1,000 metre (3,300 ft) uwchlaw lefel y môr ac mae wedi'i hamgylchynu ar dair ochr gan ddyffryn. Gellir gweld y Môr Marw o al-Karak. Mae dinas o tua 32,216 o bobl (2005 [1]) wedi datblygu o amgylch y castell ac mae ganddi adeiladau o'r cyfnod Otomanaidd o'r 19eg ganrif. Mae'r ddinas wedi'i hadeiladu ar lwyfandir trionglog, gyda'r castell ar ei ben deheuol gul.
Demograffeg[golygu | golygu cod]
Amcangyfrifwyd mai 68,800 oedd poblogaeth fetropolitan al-Karak yn 2013, sef 31.5% o gyfanswm poblogaeth Ardal Lywodraethol Karak. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y ddinas yn Fwslimiaid (75%) ac mae yna hefyd boblogaeth Gristnogol sylweddol (25%). Yn gyffredinol, mae canran y Cristnogion yn al-Karak ymhlith yr uchaf yng Ngwlad Iorddonen.
Oriel[golygu | golygu cod]
Cerflun o Saladin a mosg tu ôl i ganol y ddinas
Cyfeilldref[golygu | golygu cod]
- Birmingham, Alabama, Unol Daleithiau