Al-Bireh

Oddi ar Wicipedia
Al-Bireh
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth48,887 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iYoungstown, Ohio, Fort Lauderdale, Gennevilliers Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Ramallah ac Al-Bireh Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Arwynebedd22.4 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr860 metr, 852 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRamallah Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.9051°N 35.215°E Edit this on Wikidata
Cod post1860 Edit this on Wikidata
Map
Am y dref yn Libanus gweler Al-Bireh, Libanus.

Dinas ar y Lan Orllewinol, Palesteina, sy'n gorwedd ger Ramallah tua 15 km (9 milltir) i'r gogledd o Al-Quds (Caersalem) yw Al-Bireh neu El-Bira (Arabeg: البيرة‎). Mae'n gorwedd ar y cefn o dir canolog ym Mhalesteina 860 meter (2,822 troedfedd) uwch lefel y môr, gydag arwynebedd o 22.4 km sgwar (8.6 milltir agwar). Ystyr yr enw al-bireh yw "ffynnon", ac fe'i gelwir felly am fod nifer o ffynhonnau yn yr ardal.

Oherwydd ei lleoliad, gwasanaethai al-Bireh am ganrifoedd fel croesfan economaidd ar y llwybr masnach rhwng Jeriwsalem a Nablus. Mae ganddi boblogaeth o tua 39,538 (2006).

Dolen allanol[golygu | golygu cod]