Serebro

Oddi ar Wicipedia
Serebro
Enghraifft o'r canlynolgrŵp merched Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Label recordioMonolith Records, Republic Records, Columbia Records, EMI, Warner Music Group Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2006 Edit this on Wikidata
Dod i ben2019 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2006 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, Europop, synthpop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysKatya Kischuk, Polina Favorskaya Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Band Rwsaidd ydy Serebro (Rwsieg: Серебро; Cymraeg: Arian). Ffurfiwyd y band yn 2006 gan y cynhyrchydd miwsig Maxim Fadeev ac mae'r band yn cynnwys yr aelodau Elena Temnikova, Olga Seryabkina ac Anastasia Karpova - mae'r diwethaf wedi disodli yr aelod blaenorol Marina Lizorkina. Cynrychiolodd Serebro yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2007 yn Helsinki, Ffindir. Gorffennodd yn y drydedd safle gyda'r gân "Song #1".

Aelodau[golygu | golygu cod]

Aelod Nodiadau Blynyddoedd
Aelodau presennol:
Elena Temnikova Roedd Temnikova (ganed 18 Ebrill 1985, Kurgan, Rwsia) yn cystadlu ar sioe Rwsaidd Star Factory yn 2003 ac arwyddodd gytundeb i ymuno â label Maxim Fadeev. Mae hi wedi rhyddhau dwy sengl "Беги" (Begi, Cym: Rhedeg) a "Тайна" (Taina, Cym: Dirgelwch) ond penderfynodd ymuno â'r band newydd Serebro.[1][2] 2006-presennol
Olga Seryabkina Astudiodd Seryabkina (ganed 12 Ebrill 1985, Moscow, Rwsia) bale pan oedd hi'n saith oed. Graddiodd Seryabkina yn ysgol celf, adran canu pop, ac yn 2006 cafodd dystysgrif "cyfieithiad ac entrepreneurship". Cafodd wahoddiad oddi wrth Temnikova i ymuno â Serebro.[3] 2006-presennol
Anastasia Karpova Mynychodd Karpova (ganed 2 Tachwedd 1984, Balakovo, Rwsia) gwersi canu ar ôl treuliodd hi llawer o'i hamser fel plentyn yn dawnsio bale. Ymunodd Karpova y grŵp yn 2009. 2009-presennol
Cyn aelodau:
Marina Lizorkina Dechreuodd Lizorkina (ganwyd 9 Mehefin 1983, Moscow, Rwsia) astudio ym Mhrifysgol Celf Gyfoes ym Moscow pan oedd yn 16 oed. Roedd hi'n aelod o'r gôr ac yn brif gantores o'r band "Formula". Ymunodd Lizorkina â Serebro ar ôl iddi weld hysbyseb ar y we.[4][5] Gadawodd y grŵp ar y 18 o Fehefin 2009 o achos resymau ariannol a phersonnal. 2006-2009

Hanes[golygu | golygu cod]

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2007[golygu | golygu cod]

Mae Serebro yn perfformio "Song#1" yn Helsinki.

Roedd y sianel Rwsaidd Channel One yn gyfrifol am ddewis cynrychiolydd Rwsia ac roedden nhw wedi dewis y band Serebro, a oedd yn anhysbys i'r mwyafrif o'r cyhoedd. Ar y 12fed o Fai 2007 perfformiodd Serebro yn safle 15 y rownd derfynol. Cafodd Serebro 12 pwynt oddi wrth Armenia, Belarws, ac Estonia a 10 pwyntiau oddi wrth Wcráin. Gorffenon nhw'n drydydd gyda 207 pwyntiau.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Official Serebro Website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2009-06-28.
  2. "Safle Elena Temnikova". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-27. Cyrchwyd 2009-06-28.
  3. "Gwefan Swyddogol Serebro". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2009-06-28.
  4. Russia at the Eurovision Song Contest 2007
  5. Girl-Band Serebro represents Russia at the Eurovision Song Contest 2007

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]