Cân Rwsieg gan y band Serebro yw "Сладко" (Sladka; Cymraeg: Losinen), "Like Mary Warner" yw'r fersiwn Saesneg y gân. Rhyddhawyd y sengl ar 24 Awst 2009 ac enillodd hi rhif un yn y siart senglau Rwsia (eu pedwerydd rhif un yn Rwsia). Dyma'r sengl gyntaf gydag aelod newydd y band, Anastasia Karpova, a'r sengl gyntaf a ysgrifennwyd gan y cynhyrchydd Maxim Fadeev ac aelod o'r band Olga Seryabkina. Mae'r gân yn enwog am ei henw homoffonig o achos 'Mary Warner' yn swnio fel 'marijuana', enw Rwsieg "Like Mary Warner" yw "Как марихуана" (Kak marihuana; Fel marijuana).[2][3]