Olga Seryabkina
Olga Seryabkina | |
---|---|
Ffugenw | MOLLY |
Ganwyd | 12 Ebrill 1985 Moscfa |
Label recordio | Monolith Records, Universal Music Group, Warner Music Russia |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Rwsia |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, bardd, ysgrifennwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, Europop |
Taldra | 1.58 ±0.01 metr |
Gwefan | https://seryabkina.com |
Cantores ac ysgrifennwr caneuon Rwsia yw Olga Seryabkina (Rwsieg:Ольга Юрьевна Серябкина; ganed 12 Ebrill 1985 ym Moscow, Rwsia). Mae hi'n enwog fel aelod o'r grŵp a gynrychiolodd Rwsia yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2007.
1992-2006: Gyrfa cynnar
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Seryabkina astudio bale pan oedd hi'n 7 oed a phan oedd hi'n 17 oed dilynodd hi gyrfa chwaraeon a chyfranogodd yn amryw cystadleuaethau rhyngwladol. Gweithiodd hi fel dawnsiwr/cantores gefnogaeth i'r gantores Rwsia Iraklij o 2004 - 2006.
2007-presennol: Serebro
[golygu | golygu cod]- Prif: Serebro
Daeth Elena Temnikova â Seryabkina i'r castio Serebro, roedd Temnikova aelod yn barod, ac ymunodd Seryabkina â'r grŵp. Cynrychiolodd Serebro Rwsia yn Eurovision 2007 gyda'r gân "Song #1" (cân gyntaf y grŵp) a daethant yn drydydd yn y gystadleuaeth. Daeth Serebro yn un o'r artistiaid mwyaf poblogaidd yn Rwsia a dechreuodd Seryabkina ysgrifennu caneuon i'r grŵp yn 2007. Hefyd yn 2007, roedd suon am y posibilrwydd y byddai Seryabkina'n gadael y grŵp o achos tensiwn rhyngddi hi a Temnikova. Dywedodd Maxim Fadeev, cynhyrchydd y grŵp, ei fod e wedi ffeindio olynydd i Seryabkina ond penderfynodd hi beidio a gadael y grŵp.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Graddiodd Seryabkina yn yr ysgol celf, enillodd diploma addysg uwch ar gyfer arbenigaeth yn y byd cyfieithiad ac entrepreneuriaeth. Gall hi'n siarad Rwsieg, Saesneg ac Almaeneg yn rhugl.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) (Saesneg) Gwefan Serebro Archifwyd 2010-04-04 yn y Peiriant Wayback
|