Selog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Selog

Eicon sy’n cefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y cartref neu mewn ysgolion a meithrinfeydd yw’r ddraig Selog.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Lansiwyd y cymeriad yn 2010 gan Menter Iaith Môn a darlledwyd hoff straeon Selog gan awduron ac o weisg amrywiol yn wythnosol ar yr orsaf radio Cymreig MonFm.

I gydfynd a defnydd mwy diweddar o dechnoleg, ac ar gais rhieni di-Gymraeg yng Nghaergybi, esblygwyd yr adnodd i gynnwys caneuon Cymraeg ar ap di-dâl. Mae'r un deg pedwar can yn cynnwys hwiangerddi poblogaidd megis Mi Welais Jac y Do, caneuon addysgiadol megis Un bys, dau bys, tri bys yn dawnsio, a chaneuon poblogaidd gan gefnogwyr Cymru megis Sosban Fach, Calon Lan, ac wrth gwrs yr anthem genedlaethol Hen Wlad fy Nhadau. Dyluniwyd yr ap i fod yn hygyrch i blant, dysgwyr Cymraeg, rhieni a gofalwyr di-Gymraeg, a hyd yn oed gofalwyr dementia.

Yn ogystal, trosglwyddwyd un deg pedwar o’r straeon gwreiddiol o wasg y Lolfa i ap llyfrau newydd: pedwar o gyfres Rwdlan, gan Angharad Tomos, a deg o gyfres Alun yr Arth, gan Morgan Tomos. Bwriad yr ap yw cefnogi darllen llyfrau a rhoi hwb i blant a’u rhieni wrth ddarllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf drwy fodelu iaith a mynegiant, gan feithrin hyder yn y plant i ddarllen yn annibynnol.

Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017[golygu | golygu cod y dudalen]

Derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i baratoi’r apiau a lansiwyd hwy gan y Gweinidog dros y Gymraeg, Alun Davies AC yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ar y 9ed o Awst 2017. Yn y chwe mis cyntaf, lawrlwythwyd yr apiau di-dâl, o’r App Store a’r Play Store, dros 8000 gwaith.

Selog yn diddanu criw ifanc

Mae Menter Iaith Môn yn rhagweld datblygiad pellach i’r adnoddau yn gysylltiedig â Selog sy’n gyfrwng effeithiol i gefnogi unigolion a theuluoedd i fwynhau ac i feithrin hyder yn y Gymraeg. Mae cymeriad Selog hefyd wedi profi’n boblogaidd fel ymwelydd hyrwyddo’r iaith, llythrennedd a chanu mewn ysgolion, meithrinfeydd a digwyddiadau cymunedol. Mae cyfieithiadau o’r caneuon yn galluogi pobl o gefndiroedd ieithyddol amrywiol, ac ar draws y byd, i werthfawrogi hynodrwydd hwiangerddi a chaneuon Cymraeg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]