Santa Montefiore
Santa Montefiore | |
---|---|
Ganwyd | 2 Chwefror 1970 Caerwynt |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor |
Tad | Charles Palmer-Tomkinson |
Mam | Patricia Dawson |
Priod | Simon Sebag Montefiore |
Plant | Lily Sebag-Montefiore, Sasha Sebag-Montefiore |
Awdures o Loegr yw Santa Montefiore (ganwyd 2 Chwefror 1970) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur .
Ganed Santa Palmer-Tomkinson yng Nghaerwynt ar 2 Chwefror 1970. Wedi gadael Ysgol y Merched, Sherborne, mynychodd Brifysgol Caerwysg lle astudiodd Sbaeneg ac Eidaleg.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ei rhieni yw Charles Palmer-Tomkinson, a oedd yn Uchel Siryf Hampshire, a Patricia Palmer-Tomkinson (g. Dawson), o gefndir Eingl-Ariannin.[1] Roedd ei thad, ac aelodau eraill o'i theulu, yn cynrychioli Prydain mewn sgïo ar lefel Olympaidd. Mae teulu Palmer-Tomkinson yn dirfeddianwyr sylweddol yn Hampshire a Swydd Gaerlŷr. Ei chwaer yw'r sosialite Tara Palmer-Tomkinson[2][3][4][5][6][7][8].
Disgrifiodd ei magwraeth fel un gwarchodol, perffaith, a oedd yn troi o gwmpas ffasiwn a chymdeithasu.[9][10]
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Anfonodd ei llawysgrif gyntaf at sawl asiant llenyddol, gan ddefnyddio enw-awdur er mwyn ymbellhau oddi wrth ei chwaer. Dim ond un asiant, Jo Frank o A P Watt, a fynegodd ddiddordeb, ond arweiniodd hyn at ryfel bidio rhwng sawl cyhoeddwr, gyda Hodder & Stoughton yn rhoi blaenswm chwe ffigwr iddi[10].
Cyhoeddodd Montefiore o leiaf un nofel y flwyddyn er 2001. Mae pedwar o'i llyfrau wedi'u lleoli yn yr Ariannin, lle treuliodd 1989 fel 'blwyddyn i ffwrdd' yn dysgu Saesneg.[9][10] Mae llawer o'i llyfrau wedi gwerthu'n dda, ac erbyn 2019 roedd cyfanswm y gwerthiant dros 6 miliwn o gopiau, gyda chyfieithiadau mewn 25 o ieithoedd.[11]
Fel ei dylanwadau llenyddol pennaf, mae'n rhestru The Count of Monte Cristo gan Alexandre Dumas; House of Mirth gan Edith Wharton; a'r awduron Gabriel Garcia Márquez, Mary Wesley, Eckhart Tolle, a Daphne du Maurier.[9] Isabel Allende yn bwysig iddi hefyd.[12]
Mae hi wedi cyd-ysgrifennu gyda'i gŵr Simon Sebag Montefiore gyfres o lyfrau plant o'r enw The Royal Rabbits of London, a gyhoeddir gan Simon & Schuster. Mae 20th Century Fox wedi prynu hawliau'r ffilm ac yn 2019 roeddent wrthi'n addasu'r gyfres ar gyfer y sgrin fawr.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Meet Me Under the Ombu Tree (2001) ISBN 0-7089-9333-8[12]
- The Butterfly Box (2002) ISBN 0-7089-9402-4
- The Forget-me-not Sonata (2003) ISBN 0-340-83171-5
- The Swallow and the Hummingbird (2004) ISBN 0-340-83260-6
- The Last Voyage of the Valentina (2005) ISBN 0-340-83087-5
- The Gypsy Madonna (2006) ISBN 0-340-83090-5
- Sea of Lost Love (2007) ISBN 0-340-84046-3
- The French Gardener (2008) ISBN 141654374-0
- The Italian Matchmaker (2009) ISBN 0-340-84055-2
- The Affair (2010) ISBN 1848949367
- The House by the Sea (2011) ISBN 1849831068
- The Summer House (2012) ISBN 1847379273
- Secrets of the Lighthouse (2013) ISBN 1471100952
- A Mother's Love (2013) ISBN 1471128601
- The Beekeeper's Daughter (2014) ISBN 1476735417
- Songs of Love and War (2015) (Y cyntaf o The Deverill Chronicles) ISBN 1471135845
- Daughters of Castle Deverill (2016) (Yr ail o The Deverill Chronicles) ISBN 9781471135903
- Last Secret of the Deverills (2017) (Y 3ydd o The Deverill Chronicles) ISBN 9781471135927
- The Temptation of Gracie (2018) ISBN 9781471169588
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gweler y London Gazettel rhi 53618; tud. 4244; 18 Mawrth 1994
- ↑ "It girl Tara cuts ribbon at £4.8m sixth-form". Leicester Mercury. Cyrchwyd 2016-10-05.[dolen farw]
- ↑ Walker, Andrew (30 Awst 2002). "BBC News "Tara Palmer-Tomkinson: Still got It?"".
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13630771p. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13630771p. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Dyddiad geni: "Santa Montefiore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Senta Palmer-Tomkinson". The Peerage.
- ↑ Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Siobhan Kane (3 Awst 2013). "Connemara's gift to Santa". Irish Times. Cyrchwyd 2016-10-05.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Christa D'Souza (24 Chwefror 2001). ""The lit girl"". The Telegraph. Cyrchwyd 2016-10-05.
- ↑ "Writes of Passage". The Scotsman. 3 Tachwedd 2007
- ↑ 12.0 12.1 "The World According To... Santa Montefiore". The Independent. 7 Chwefror 2005. Cyrchwyd 16 Hydref 2016.
Dywedodd: As a child, I hated it and wanted to be called Jane. I got sick of the jokes. But I now enjoy the fact that nobody else has it. I'm named after a crop of barley that my father produced called "senter", and my mother compromised with Santa, with means "saint" in Spanish.