Edith Wharton

Oddi ar Wicipedia
Edith Wharton
GanwydEdith Newbold Jones Edit this on Wikidata
24 Ionawr 1862 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1937 Edit this on Wikidata
Saint-Brice-sous-Forêt Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd, The Mount, Castel Sainte-Claire Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, bardd, cyfieithydd, rhyddieithwr, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Mount, The Age of Innocence, The Touchstone, The House of Mirth, The Reef, The Custom of the Country, Summer, Roman Fever, The Decoration of Houses, The Greater Inclination, Crucial Instances, Old New York Edit this on Wikidata
Arddullnofel ramant Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHenry James, Vernon Lee Edit this on Wikidata
TadGeorge Frederic Jones Edit this on Wikidata
MamLucretia Stevens Rhinelander Edit this on Wikidata
PriodEdward Robbins Wharton Edit this on Wikidata
PerthnasauMary Mason Jones Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Pulitzer am Ffuglen Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures Americanaidd o linach Gymreig oedd Edith Wharton neu i'w ffrindiau: Pussy Jones (24 Ionawr 1862 - 11 Awst 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, bardd, cyfieithydd ac awdur rhyddiaith. Roedd o deulu cyfoethog iawn o Efrog Newydd a disgrifiodd y gymdeithas honno yn ei llyfrau. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Pulitzer am lenyddiaeth, a hynny yn 1921 a'r Hall of Fame yn 1996.[1]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Wharton yn ferch ifanc, gan Edward Harrison Mai (1870)

Ganed Edith Newbold Jones yn Ninas Efrog Newydd ar 24 Ionawr 1862; George Frederic Jones a Lucretia Stevens Rhinelander oedd ei rhieni. Dywedir fod y dywediad Saesneg "keeping up with the Joneses" yn wreiddiol yn cyfeirio at deulu ei thad.[2][3]

Ganed a maged Wharton yn ystod y Rhyfel Cartref America (1861–1865); er nad yw Wharton ei hun, tra'n disgrifio bywyd ei theulu, nid yw'n crybwyll y Rhyfel - ac eithrio bod eu teithiau i Ewrop ar ôl y Rhyfel yn ganlyniad i ddibrisio arian cyfred America. O 1866 i 1872, ymwelodd y teulu Jones â Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen a Sbaen. Yn ystod ei theithiau, daeth yr Edith ifanc yn rhugl mewn Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg. Pan oedd yn naw oed, dioddefodd o dwymyn y teiffoid, a fu bron â'i lladd hi.

Bu farw yn Saint-Brice-sous-Forêt o strôc ac fe'i claddwyd yn Cimetière des Gonards.[4][5][6][7][8][9]

Y llenor[golygu | golygu cod]

Yn 15 oed, ymddangosodd cyhoeddodd gyfieithiad o gerdd Almaeneg "Was die Steine Erzählen" ("Yr Hyn a Ddywed y Cerrig") gan Heinrich Karl Brugsch, y talwyd iddi $50. Nid oedd ei theulu am i'w henw ymddangos mewn print gyda'r gerdd, gan nad oedd ysgrifennu yn cael ei ystyried yn alwedigaeth briodol i fenyw o gymdeithas ei chyfnod.

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Mount, The Age of Innocence, The Touchstone, The House of Mirth, The Reef, The Custom of the Country, Summer, Roman Fever, The Decoration of Houses, The Greater Inclination, Crucial Instances a Old New York.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd. [10][11]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Chevalier de la Légion d'Honneur, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1996), Gwobr Pulitzer am Ffuglen (1921)[12][13] .

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Ffynhonnell: Campbell, Donna M. "Works by Edith Wharton". Washington State University. Cyrchwyd 22 Ionawr 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. National Women's Hall of Fame, Edith Wharton
  2. Lee 2008, t. 22.
  3. Benstock 1994, t. 216.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11929115r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index17.html.
  6. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11929115r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  7. Dyddiad geni: "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". "Edith Wharton". "Edith Wharton". "Edith Jones". "Edith Wharton". https://cs.isabart.org/person/65265. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 65265.
  8. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11929115r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edith Wharton". "Edith Wharton". "Edith Wharton". "Edith Jones". "Edith Wharton". https://cs.isabart.org/person/65265. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 65265.
  9. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 http://www.nytimes.com/2004/10/01/books/01WHAR.html?fta=y.
  10. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/65265. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 65265.
  11. Anrhydeddau: "Edith Wharton". 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod. http://www.pulitzer.org/awards/1921. dyddiad cyrchiad: 21 Hydref 2015.
  12. "Edith Wharton". 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod.
  13. http://www.pulitzer.org/awards/1921. dyddiad cyrchiad: 21 Hydref 2015.