Sandra Maischberger
Sandra Maischberger | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Awst 1966 ![]() München ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm, llenor, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu ![]() |
Cyflogwr | |
Priod | Jan Kerhart ![]() |
Gwobr/au | Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Hanns-Joachim-Friedrichs-Award, Gwobr Romy, Golden Schlitzohr, Deutscher Fernsehpreis, Bavarian TV Awards, Hildegard von Bingen Award, Gwobr Ernst Schneider, Goldene Kamera, Medienpreis für Sprachkultur, Goldene Kamera ![]() |
Awdur a chyflwynydd teledu o'r Almaen yw Sandra Maischberger (ganwyd 25 Awst 1966) sydd hefyd cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a chynhyrchydd ffilm.
Fe'i ganed yn München ar 25 Awst 1966. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Ludwig Maximilian, Munich a Choleg Werner-Heisenberg.[1]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Treuliodd Maischberger bum mlynedd o'i phlentyndod yn Frascati, ger Rhufain, yr Eidal, a chafodd ei magu yn Garching, ger Munich. Roedd ei thad yn ffisegydd i Gymdeithas Max Planck ac roedd ei mam yn dywysydd teithiau.[2] Mae hi'n chwaer i Martin Maischberger, archeolegydd o'r Almaen.[2][3][4] Pan oedd yn ei harddegau, ei dewis gyrfa oedd fel milfeddyg neu'n dditectif. Rhwng 1987 a 1989 hyfforddodd yn Ysgol Newyddiaduraeth Ludwig Maximilian Prifysgol Munich.[4][5] [6][7][8]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol, dechreuodd Maischberger weithio yn y Bayerischer Rundfunk, darlledwr radio ym Munich, ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio i wahanol orsafoedd teledu gan gynnwys Premiere, RTL, VOX, n-tv, ac ARD. O 1992, cymedrolodd 0137, sioe sgwrsio fyw, bob-yn-ail gyda Roger Willemsen.[5]
Mae Maischberger wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwys Hand aufs Herz (Llaw ar y Galon) (cyfweliad gyda Helmut Schmidt)[9] a Die musst Du kennen — Menschen machen Geschichte, sef gwyddoniadur (neu fywgraffiadur) o wyddonwyr, arlunwyr a gwleidyddion nodedig drwy'r oesau.[10]
Ers 2003, mae Maischberger wedi bod yn cymedroli sioe sgwrsio ar Das Erste. Yn 2009, ar achlysur 60 mlynedd sefydlu Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, cyfwelodd y Canghellor Angela Merkel.[11] Cymedrolodd Maischberger hefyd (ar y cyd gyda Maybrit Illner, Peter Kloeppel a Claus Strunz) yr unig ddadl etholiad teledu rhwng Merkel a'i gwrthwynebydd, Martin Schulz, cyn etholiadau 2017, a ddarlledwyd yn fyw ar bedair o sianeli teledu mwyaf poblogaidd yr Almaen.[12]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- 2000: Hanns-Joachim-Friedrichs-Award
- 2001: Gwobr Teledu Bafaria
- 2002: Ernst-Schneider-Preis
- 2002: Goldene Kamera
- 2004: Medienpreis für Sprachkultur, (GfdS)
- 2008: Goldene Kamera
- 2013: Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen
- 2016: Gwobr Romy
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyddiad geni: "Sandra Maischberger". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sandra Maischberger". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sandra Maischberger". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 2.0 2.1 "Sandra Maischberger Interview". GQ (Germany). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-19. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010. (mewn Almaeneg)
- ↑ "Archeology and the Cities of Asia Minor in Late Antiquity". University of Michigan. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.[dolen farw]
- ↑ 4.0 4.1 Parmeggani, Aldo (22 Medi 2006). "Im Gespräch mit... Sandra Maischberger". Vatican Radio. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010. (mewn Almaeneg)
- ↑ 5.0 5.1 "Sandra Maischberger". Vincent TV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-02. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.
- ↑ Alma mater: "Vor dem Schreiben gedrückt" (yn Almaeneg). 17 Mai 2010. Cyrchwyd 29 Awst 2018.
Dummerweise schrieb ich mich bei Kommunikationswissenschaften ein und schritt nach drei Tagen zur Exmatrikulation.
- ↑ Galwedigaeth: Internet Movie Database.
- ↑ Anrhydeddau: http://www.hanns-joachim-friedrichs.de/index.php/preistr%C3%A4ger-2000.html. dyddiad cyrchiad: 19 Tachwedd 2019. http://www.schlitzohren.org/das-goldene-schlitzohr/. dyddiad cyrchiad: 12 Ionawr 2020. https://www.stmwi.bayern.de/fileadmin/user_upload/stmwi/Themen/Wettbewerbe/Medienpreise/2017-01-16_Bayerische_Fernsehpreistraeger-1989-2016__2017-01_.pdf. dyddiad cyrchiad: 22 Mehefin 2019. https://gfds.de/medienpreise/#medienpreis. dyddiad cyrchiad: 3 Tachwedd 2019.
- ↑ Gohler, Bernhard, gol. (2002). Hand Aufs Herz: Helmut Schmidt Im Gesprach Mit Sandra Maischberger. Econ. t. 266. ISBN 3-430-17964-5. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.
- ↑ Maischberger, Sandra, gol. (2004). Die musst du kennen. CBJ. t. 352. ISBN 3-570-12871-7. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.
- ↑ Stasi wollte Merkel anwerbe Münchner Merkur, 19 Mai 2009.
- ↑ Markus Ehrenberg (3 Medi 2017), So gut waren die Moderatoren Tagesspiegel.