Sana'a

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sana'a

Prifddinas Yemen yw Sana'a, hefyd Sanaa neu Sana (Arabeg:صنعاء, aş-Şana`ā). Roedd y boblogaseth yn 2012 yn 1,937,451.

Sefydlwyd Sana'a yn y 3edd ganrif, efallai ar safle hŷn. Yn ôl traddosiad, sefydlwyd y ddinas gan Sem, un o feibion Noa. Daeth yn brifddinas yr Himiaritiaid o 520) ymlaen, ac yn ystod y 6ed ganrif bu Ymerodraeth Persia ac Ethiopia yn ymladd a'i gilydd i reoli'r ardal. Pan oedd yr Ethiopiaid yn meddiannu'r ardal, gyda chymorth yr Ymerawdwr Bysantaidd Justinianus I, adeildwyd eglwys gadeiriol fawr, y fwyaf i'r de o Fôr y Canoldir. Yn 628 cipiwyd Yemen gan luoedd dilynwyr y proffwyd Muhammad.

Daeth Sana'a yn Swltaniaeth hunanlywodraethol dan yr Ymerodraeth Ottoman yn 1517. Tua diwedd y 19eg ganrif, fe'i hymgorfforwyd yn yr ymerodraeth, gyda llai o hunanlywodraeth. Dynodwyd canol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.