Samuel P. Huntington

Oddi ar Wicipedia
Samuel P. Huntington
Samuel P. Huntington yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, y Swistir (2004).
GanwydSamuel Phillips Huntington Edit this on Wikidata
18 Ebrill 1927 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw24 Rhagfyr 2008 Edit this on Wikidata
Martha's Vineyard Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, geowleidydd, gwyddonydd gwleidyddol, ysgrifennwr, academydd, cymdeithasegydd, economegydd, cyfranogwr fforwm rhyngwladol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Third Wave: Democratization in the Late Twentieth Century, Gwrthdaro'r gwareiddiadau, Who Are We? The Challenges to America's National Identity Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
MamDorothy Sanborn Phillips Edit this on Wikidata
PriodNancy Arkelyan Huntington Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Grawemeyer, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata

Gwyddonydd gwleidyddol o Americanwr oedd Samuel Phillips Huntington (18 Ebrill 192724 Rhagfyr 2008). Roedd yn enwocaf am ei syniad dadleuol o wrthdaro'r gwareiddiadau yn dilyn diwedd y Rhyfel Oer.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Samuel Phillips Huntington yn Ninas Efrog Newydd ar 18 Ebrill 1927. Mynychodd Uwchysgol Stuyvesant ym Manhattan. Derbyniodd ei radd o Brifysgol Yale yn 18 oed, a gwasanaethodd ym Myddin yr Unol Daleithiau am gyfnod byr. Aeth yn fyfyriwr ôl-raddedig i Brifysgol Chicago a Phrifysgol Harvard.[1]

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Huntington addysgu ar bwnc llywodraeth ym Mhrifysgol Harvard yn 23 oed, a bu'n athro yno am hanner can mlynedd a mwy. Cyhoeddodd The Soldier and the State yn 1957, cyfrol sy'n ymchwilio i gysylltiadau rhwng y lluoedd arfog a'r llywodraeth sifil, a sbardunwyd gan ddiswyddo'r Cadfridog Douglas MacArthur gan yr Arlywydd Harry Truman yn 1951. Trodd ei sylw at faterion rhyngwladol yn y 1960au, ac ysgrifennodd Political Order in Changing Societies (1969), gwaith sy'n dadansoddi datblygiadau gwleidyddol ac economaidd yn y Trydydd Byd.[1]

Gwasanaethodd yn llywydd y Gymdeithas Gwyddor Gwleidyddiaeth Americanaidd. Sefydlodd y Sefydliad John M. Olin dros Astudiaethau Strategol ym Mhrifysgol Harvard.[1] Cyd-sefydlodd y cyfnodolyn Foreign Policy, gyda Warren Demian Manshel, yn 1970.

Yn 1993, cyhoeddwyd erthygl ganddo yn y cyfnodolyn Foreign Affairs yn dwyn y teitl "The Clash of Civilizations?" ac yn egluro'i ragfynegiad y byddai rhyfeloedd y cyfnod wedi'r Rhyfel Oer yn tarddu o wahaniaethau rhwng diwylliannau a chrefyddau yn hytrach na gwladwriaethau. Sbardunwyd dadl academaidd ffyrnig gan yr erthygl, ac ehangodd Huntington ar ei ddamcaniaeth yn y llyfr The Clash of Civilizations and the Remaking of World Order (1996). Dylanwadodd y syniad o wrthdaro'r gwareiddiadau ar nifer o wneuthurwyr polisi ac awduron, yn enwedig y neogeidwadwyr, er nad oedd Huntington ei hunan yn arddel ymyrraeth ryngwladol.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Roedd Huntington yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd ac yn weithgar mewn ymgyrchoedd etholiadol. Cyfarfu â'i wraig, Nancy Arkelyan Huntington, tra'r oedd y ddau ohonynt yn cyd-ysgrifennu araith ar gyfer Adlai Stevenson II, ymgeisydd y Democratiaid yn etholiad arlywyddol 1956. Gweithiodd yn gynghorwr ar bolisi tramor yn ymgyrch arlywyddol Hubert Humphrey yn 1968. Gwasanaethodd yn swydd cydlynydd cynllunio diogelwch ar gyfer Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn 1977–78 yn ystod arlywyddiaeth Jimmy Carter.[1]

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Bu farw Samuel P. Huntington ar 24 Rhagfyr 2008 ym Martha's Vineyard, Massachusetts, yn 81 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Tamar Lewin, "Samuel P. Huntington, 81, Political Scientist, Is Dead", The New York Times (28 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 25 Hydref 2019.