Sacsoni

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sachsen)
Sachsen
Mathtaleithiau ffederal yr Almaen Edit this on Wikidata
PrifddinasDresden Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,086,218 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 3 Hydref 1990 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMichael Kretschmer Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd18,415.66 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr342 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBrandenburg, Bafaria, Thüringen, Sachsen-Anhalt, Ústí nad Labem Region, Liberec Region, Karlovy Vary Region, Lower Silesian Voivodeship, Lubusz Voivodeship Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.0269°N 13.3589°E Edit this on Wikidata
DE-SN Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLandtag of Saxony Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Minister-President of Saxony Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMichael Kretschmer Edit this on Wikidata
Map

Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Sacsoni, yn llawn Talaith Rydd Sacsoni (Almaeneg: Freistaat Sachsen, Sorbeg Uchaf: Swobodny stat Sakska). Saif yn nwyrain y wlad, yn ffinio ar Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 4.220.200. Prifddinas y dalaith yw Dresden; dinasoedd pwysig eraill yw Leipzig, Chemnitz a Zwickau.

Sefydlwyd Talaith Rydd Sacsoni yn 1918 ar ôl yr ymddiorseddiad y brenin Ffredrig Awgwstws III a wedi i Deyrnas Sacsoni ddod i ben. Wedi'r Ail Ryfel Byd daeth yn rhan o Ddwyrain yr Almaen, ac yn 1952 fe'i rhannwyd yn dair rhan, Leipzig, Dresden a Chemnitz (a ail-enwyd yn "Karl-Marx-Stadt" yn ddiweddarach. Ail-ffurfiwyd y dalaith yn 1990 yn dilyn ad-uno'r Almaen.


Taleithiau ffederal yr Almaen Baner yr Almaen
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sacsoni | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen