Robin goch
Robin goch
| |||
---|---|---|---|
Delwedd:European Robin (Erithacus rubecula) (W1CDR0001425 BD16).ogg, Erithacus rubecula.ogg | |||
Statws cadwraeth | |||
Dosbarthiad gwyddonol | |||
Teyrnas: | Animalia | ||
Ffylwm: | Chordata | ||
Dosbarth: | |||
Urdd: | Passeriformes | ||
Teulu: | Muscicapidae | ||
Genws: | Erithacus[*] | ||
Rhywogaeth: | Erithacus rubecula | ||
Enw deuenwol | |||
Erithacus rubecula (Linnaeus, 1758) | |||
![]() | |||
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Mae'r Robin goch (Erithacus rubecula) yn un o'r mwyaf adnabyddus o'r holl adar. Arferai gael ei ystyried yn aelod o deulu'r Turdidae, y bronfreithod, ond yn ddiweddar mae wedi ei ail-ddosbarthu i deulu'r Muscicapidae.
Mae'n aderyn cyfarwydd am ei fod yn hawdd ei adnabod gyda'i frest goch, ac am ei fod yn aderyn dof yn Ynysoedd Prydain, yn barod i ddod yn agos iawn at unrhyw un sy'n gweithio yn yr ardd, er enghraifft, i chwilio am bryfed. Ambell dro mae hyd yn oed yn barod i ddod i mewn i dai i gael ei fwydo. Mewn rhannau o'r gweddill o Ewrop nid yw mor ddof.
Yn anarferol, mae'r Robin Goch yn canu trwy'r flwyddyn, nid yn y gwanwyn yn unig. Mae'r gân yn yr hydref a'r gaeaf yn wahanol i'r gân yn y gwanwyn a'r haf. Mae'n nythu mewn unrhyw dwll neu gornel addas. Gall fod yn aderyn ymosodol dros ben - os daw Robin Goch arall i mewn i'w diriogaeth gallant weithiau ymladd nes i un ladd y llall. Gall unrhyw ddarn bach o liw coch wneud i'r aderyn ymosod.
Nid yw'n aderyn mudol yn y rhannau hynny lle nad yw'r gaeaf yn arbennig o oer, ond er enghraifft mae adar o Sgandinafia a Rwsia yn dod i Brydain i aeafu. Gellir eu hadnabod trwy fod y fron yn fwy oren yn hytrach na choch.
Mae llawer o chwedloniaeth ynglŷn â'r Robin Goch, er enghraifft i egluro sut y cafodd ei fron goch. Ystyrir y Robin yn symbol o'r Nadolig, ac mae i'w weld yn aml ar gardiau Nadolig. Mae'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ac ychydig o erddi sydd heb Robin Goch o'u cwmpas. Dyma englyn gan Alan Llwyd sy'n creu darlun o blentyn newynog:
Newyn, a ni'n ciniawa, yw ei ran
- Ymgreiniwr am fara!
- Colsyn ar ewyn yr iâ
- A'i big oer yn begara.[1]
Teulu'r Turdidae (Robinod)[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Robin prysgoed dorgoch | Cercotrichas leucosticta | |
Robin prysgoed ddu | Cercotrichas podobe | |
Robin prysgoed fannog | Cercotrichas leucophrys | |
Robin prysgoed frown | Cercotrichas signata | |
Robin prysgoed winau | Cercotrichas galactotes | |
Robin y Carŵ | Cercotrichas coryphoeus | |
Siama cyffredin | Kittacincla malabaricus |
|
- ↑ Edrych Drwy Wydrau Lledrith gan Alan Llwyd (Gwasg Christopher Davies (5); tud 18.