Robert Minhinnick

Oddi ar Wicipedia
Robert Minhinnick
Ganwyd1952 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cholmondeley, Gwobr Eric Gregory Edit this on Wikidata

Bardd ac amgylcheddwr Cymreig yw Robert Minhinnick (ganwyd 1952). Cafodd ei eni yng Nghastell-nedd a mynychodd Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae bellach yn byw ym Mhorthcawl. Mynychodd Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Caerdydd.

Derbyniodd Wobr Teithio John Morgan am ei lên yn 1990. Cafodd ei lyfr Watching the Fire Eater ei enwi'n Llyfr y Flwyddyn ym 1993.[1] Ef oedd golygydd Poetry Wales rhwng 1998 a 2008, a daeth y cylchgrawn yn adnabyddedig yn ryngwladol o dan ei arweiniad.[2]

Sefydlodd Minhinnick Cyfeillion y Ddaear Cymru a Sustainable Wales.[1] Cefnogodd ymgyrch CND Cymru yn 2007 i beidio ag adnewyddu Trident.[3]

Enillodd wobrau Gregory a Cholmondeley am ei farddoniaeth, yn ogystal â dwy wobr llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a dwy Wobr Forward am y Gerdd Orau ar gyfer Twenty Five Laments for Iraq and The Fox in the National Museum of Wales.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • A Thread in the Maze (1978) C. Davies
  • Native Ground (1979) Triskele
  • Life Sentences (1983) Poetry Wales
  • The Dinosaur Park (1985) Poetry Wales
  • The Looters (1989)
  • Hey Fatman (1994)
  • After the Hurricane (2002)

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Sea Holly (2007)

Eraill[golygu | golygu cod]

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod]

  • The Adulterer's Tongue: Six Welsh Poets: A Facing-Text Anthology (gol., cyf.) (Carcanet Press, 2003)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Robert Minhinnick. Poetry Archive. Adalwyd ar 10 Chwefror 2010.
  2.  News Archive: Poetry Wales Editor. Yr Academi (2007). Adalwyd ar 10 Chwefror 2010.
  3.  Datganiad i’r Wasg CND Cymru yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth Llafur i ddatblygu Trident.... Bethan jenkins, SC Plaid Cymru (9 Mawrth 2007).