Robert Jones, Rhoslan
Robert Jones, Rhoslan | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1745 ![]() Llanystumdwy ![]() |
Bu farw | 18 Ebrill 1829 ![]() |
Man preswyl | Rhoslan ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, athro ![]() |
Adnabyddus am | Drych yr Amseroedd ![]() |
Plant | Daniel Jones ![]() |
Pregethwr, athro ac awdur ar bynciau crefyddol oedd Robert Jones (13 Ionawr 1745 - 18 Ebrill 1829), a adwaenir fel Robert Jones, Rhoslan. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur Drych yr Amseroedd (1820).[1]
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganwyd ef ar fferm y Suntur, Llanystumdwy, ac addysgwyd ef yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones. Yn ddiweddarach daeth ef ei hun yn athro yn yr ysgolion cylchynol hyn mewn nifer o leoedd yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd, a daeth yn amlwg fel pregethwr iddynt.[1]
Priodiodd Magdalen Prichard a symudodd i Roslan, lle defnyddiai ran o'i dŷ fel capel Methodistaidd. Yn ddiweddarach symudodd i Ddinas, Llŷn. Roedd ganddo bedwar o blant. Claddwyd ef ym mynwent Llaniestyn.
Drych yr Amseroedd[golygu | golygu cod]
Ei gyfrol enwocaf yw Drych yr Amseroedd, sy'n rhoi hanes yr Ymneilltuwyr cynnar yng Ngwynedd a'r erledigaeth a fu arnynt. Mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr crefydd a chymdeithas yn ail hanner y 18fed ganrif yng Nghymru ac yn nodweddiadol am ei arddull bywiog a'i frasluniau cofiadwy o bobl a digwyddiadau.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]
- Lleferydd yr Asyn (1776: cyhoeddwyd yn wreiddiol fel Ymddiffyn Crist'nogol, 1770)
- Y Cristion mewn Cyfiawn Arfogaeth (1775, 1784).
- Drych i'r Anllythrennog (1788)
- Grawnsypiau Canaan (1795). Casgliad o emynau.
- Achos Pwysig yn cael ei Ddadleu (1797).
- Llwybr Hyffordd i'r Anllythrennog (1805)
- Marwnad... y Parch. Thomas Jones (1820). Marwnad i Thomas Jones, Dinbych
- Drych yr Amseroedd (1820).[2]
- G. M. Ashton (gol.) Drych yr Amseroedd (Caerdydd, 1958).
Astudiaethau[golygu | golygu cod]
- Dafydd Glyn Jones, Yn Nrych yr Amseroedd (Y Ddarlith Lenyddol Flynyddol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987).