Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail)
Robert Hughes | |
---|---|
Ffugenw | Robin Ddu yr Ail ![]() |
Ganwyd | 1744 ![]() Penmynydd ![]() |
Bu farw | 27 Chwefror 1785 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Bardd a beirniad o Ynys Môn oedd Robert Hughes (1744 - 27 Chwefror 1785), a adwaenid wrth ei enw barddol Robin Ddu yr Ail (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a'r bardd canoloesol Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd, neu 'Robin Ddu', yntau'n frodor o'r ynys hefyd).[1]
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganed Robert Hughes ym mhlwyf Penmynydd, Môn, yn 1744. Gan iddo dderbyn addsyg dda ym more ei oes, bu am ryw gymaint o amser yn cadw ysgol ddyddiol yn Amlwch. Yn nes ymlaen, symudodd oddi yno i Swydd Amwythig ac oddi yno i Lundain, lle arosodd am ugain mlynedd fel ysgrifennydd i gyfreithiwr yn y Deml.[1]
Yn ystod ei arosiad yn Llundain, cyfansoddodd amryw gerddi, ac argraffwyd rhai ohonynt yn y flodeugerdd adnabyddus Dewisol Ganiadau yr Oes Hon a gyhoeddwyd yn 1759 gan Huw Jones o Langwm. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr cymdeithas y Gwyneddigion.[2]
Am fod ei iechyd yn gwaethygu, symudodd yn ôl i ogledd Cymru ac ymsefydlodd yn nhref Caernarfon. Bu farw yno o'r darfodedigaeth ar y 27 o Chwefror 1785. Cododd Cymdeithas y Gwyneddigion gofadail iddo yn eglwys Llanbeblig.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Josiah Thomas Jones, Enwogion Cymru (Aberdâr, 1867).
- ↑ Josiah Thomas Jones, Enwogion Cymru (Aberdâr, 1867).