Robert Alfred Cunliffe

Oddi ar Wicipedia
Robert Alfred Cunliffe
Ganwyd17 Ionawr 1839 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 1905 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadRobert Ellis Cunliffe Edit this on Wikidata
MamCharlotte Howel Edit this on Wikidata
PriodEleanor Sophia Egerton Leigh, Cecilie Victoria Sackville-West Edit this on Wikidata
PlantFoster Cunliffe, Violet Eleanor Cunliffe, Mary Evelyn Cunliffe, Kythe Cunliffe, Robert Neville Henry Cunliffe Edit this on Wikidata

Roedd Syr Robert Alfred Cunliffe, 5ed Barwnig (17 Ionawr, 183918 Mehefin, 1905) yn wleidydd Rhyddfrydol a fu'n Aelod Seneddol ar ddau gyfnod rhwng 1872 a 1885[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Cunliffe yn Patna, yr India ym 1839 lle'r oedd ei dad Robert Ellis Cunliffe yn gweithio i wasanaeth sifil yr Ymerodraeth Brydeinig.[2]

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton Bu'n Briod ddwywaith y tro cyntaf ag Eleanor Sophia merch hynaf Y Cadfridog Egerton Leigh cyn Aelod Seneddol Caer, bu iddynt bump o blant; bu'r hynaf ohonynt Foster Cunliffe yn gricedwr o fri a fu'n chware i Middlesex ar MCC. Ar ôl marw Elinor ym 1896, priododd Cecilie Victoria Sackville-West, merch yr Anrhydeddus W. E. Saekville West ym 1901.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymunodd a'r fyddin fel aelod o'r Gwarchodlu Albanaidd ym 1857 gan ymadael a hi yn gapten ym 1861. O 1872 fu yn Is Gyrnol yn drydedd fataliwn Cartreflu'r Gatrawd Gymreig (sef milisia o filwyr rhan amser)

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ar ddyrchafiad Syr John Hanmer Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint i Dŷ'r Arglwyddi ym 1872 cafodd Cunliffe ei ethol yn olynydd iddo yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol.[4] Gan ei fod wedi ymddangos yn llugoer, os nad yn hollol wrthwynebus, i achos Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru cafodd ei herio yn etholiad 1874 gan aelod arall o'r Blaid Ryddfrydol Peter Ellis Eyton a oedd yn frwdfrydig iawn dros achos datgysylltu; collodd ei sedd.

Ym 1880 cafodd ei ethol yn aelod Rhyddfrydol dros Bwrdeistrefi Dinbych ond cafodd ei drechu gan y Ceidwadwyr yn yr etholiad canlynol ym 1885.

Wedi'r rhwyg yn y Blaid Ryddfrydol dros achos hunain lywodraeth i'r Iwerddon safodd Cunliffe yn aflwyddiannus fel Unoliaethwr yn etholaeth Sir y Fflint.

Ar ôl ei gyrfa yn y senedd bu'n aelod o Gyngor Sir Ddinbych. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch yn Sir Dinbych ac fel dirprwy Raglaw'r Sir. Roedd yn Stiward Arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl, a bu'n Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1868.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o niwmonia yn Llundain ym 1905 a chafodd ei gladdu yn Wrecsam. Etifeddodd Foster, ei fab hynaf, y farwnigaeth[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Matthew Cragoe, ‘Cunliffe, Sir Robert Alfred, fifth baronet (1839–1905)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 12 Dec 2015
  2. DEATH OF SIR ROBERT CUNLIFFE. Llangollen Advertiser 23 Mehefin 1905 [1] adalwyd 29 Rhagfyr 2014
  3. THE WEDDING OF SIR ROBERT CUNLIFFE Llandudno Advertiser and List of Visitors 11 Ionawr 1901 [2] adalwyd 29 Rhagfyr 2014
  4. YR WYTHNOS Seren Cymru 13 Medi 1872 [3] adalwyd 29 Rhagfyr 2014
  5. MARWOLAETH SYR ROBERT CUNLIFFE Herald Cymraeg 20 Mehefin 1905 [4] adalwyd 29 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr John Hanmer
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint
18721874
Olynydd:
Peter Ellis Eyton
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles James Watkin Williams
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Dinbych
18801885
Olynydd:
George Thomas Kenyon