Richard Francis Burton

Oddi ar Wicipedia
Richard Francis Burton
Ganwyd19 Mawrth 1821 Edit this on Wikidata
Torquay, Dyfnaint Edit this on Wikidata
Bu farw20 Hydref 1890 Edit this on Wikidata
Trieste Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, fforiwr, ysgrifennwr, bardd, diplomydd, person milwrol, ethnolegydd, ieithydd, mapiwr, hanesydd, swolegydd, ysbïwr, anthropolegydd, teithiwr, naturiaethydd Edit this on Wikidata
Arddulltravel literature Edit this on Wikidata
TadJoseph Netterville Burton Edit this on Wikidata
MamMartha Baker Edit this on Wikidata
PriodIsabel Burton Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr, Medal y Sefydlydd, Grande Médaille d'Or des Explorations, Medal Rhyfel y Crimea (Prydain), Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod

Daearyddwr, fforiwr, cyfieithydd, llenor, milwr, dwyreinydd, cartograffydd, ethnolegydd, ysbïwr, ieithydd, bardd, cleddyfwr, a diplomydd o Sais oedd y Capten Syr Richard Francis Burton KCMG FRGS (19 Mawrth 182120 Hydref 1890). Roedd yn enwog am ei deithiau yn Asia, Affrica a'r Amerig yn ogystal â'i wybodaeth eang o ieithoedd a diwylliannau. Yn ôl un gyfrif, yr oedd yn medru siarad 29 o ieithoedd Ewropeaidd, Asiaidd ac Affricanaidd.

Ymhlith ei gampau enwocaf yw teithio mewn cuddwisg i Mecca, cyfieithu'r Mil ac un o nosweithiau o'r Arabeg i'r Saesneg mewn argraffiad heb ei sensro, cyhoeddi'r Kama Sutra yn Saesneg, a theithio â John Hanning Speke dan arweiniad y tywysydd Sidi Mubarak Bombay i ymweld â Llynnoedd Mawr Affrica wrth chwilio am darddiad Afon Nîl. Beirniadodd Burton bolisïau trefedigaethol yn ei waith, er anfantais i'w yrfa. Roedd yn awdur toreithiog a dysgedig ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd ar bynciau gan gynnwys ymddygiad dynol, teithio, hebogyddiaeth, cleddyfa, ymddygiad rhywiol, ac ethnograffeg. Nodwedd unigryw o'i lyfrau yw'r troednodion ac atodiadau helaeth sy'n cynnwys sylwadau nodedig a gwybodaeth gyflawn.

Roedd yn gapten ym myddin Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain a gwasanaethodd yn India, ac am gyfnod byr yn Rhyfel Crimea. Wedi hyn cafodd ei gyflogi gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i fforio arfordir dwyreiniol Affrica a daeth yn yr Ewropead cyntaf i weld Llyn Tanganyika. Yn hwyrach gwasanaethodd fel conswl dros Brydain yn Fernando Po, Santos, Damascus a Trieste. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a chafodd ei urddo'n farchog (KCMG) ym 1886.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]