Richard Arkless
Richard Arkless | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 3 Mai 2017 | |
Rhagflaenydd | Russell Brown |
---|---|
Olynydd | Alister Jack |
Geni | Stranraer, Yr Alban | 7 Gorffennaf 1975
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Dumfries a Galloway |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Richard Arkless (ganwyd 7 Gorffennaf 1975) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Dumfries a Galloway; mae'r etholaeth yn siroedd: Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark, yr Alban. Mae'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Cafodd ei eni yn 1975 yn Stranraer (Gaeleg: 'An t-Sròn Reamhar'), yn swydd Dumfries a Galloway.[1] Treuliodd ychydig amser gyda'r teulu yn Llundain, pan oedd yn fachgen.[1] Dychwelodd i Stranraer pan oedd yn wyth oed.[1]
Mae ganddo radd BA mewn Arianneg, o Brifysgol Caledonian Glasgow a gradd yn y gyfraith (LLB) o Brifysgol Ystrad Clud.[2]
Etholiad 2015
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Richard Arkless 23440 o bleidleisiau, sef 41.4% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 29.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 6514 pleidlais.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Your MP elect: Richard Arkless". itv News. 8 Mai 2015. Cyrchwyd 9 Mai 2015.
- ↑ "My CV". richardarkless.scot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-09. Cyrchwyd 9 Mai 2015.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban