Rhidian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhidian
Llanrhidian church and cottages-geograph.org.uk-3545022.jpg
Ganwyd 5G Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata

Roedd Rhidian (5g - 6g) yn sant cynnar o Gymro.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Bucheddau'r Saint, cafodd ei addysg yng nghlas Sant Cenydd (amrywiad: Cynydd) yn Llangynydd, penrhyn Gŵyr. Sefydlodd eglwys yn Llanrhidian, tua 6 milltir i'r dwyrain o Langynydd, yng nghanol Gŵyr. Cysegrir eglwys Llanrhidian i sant Illtud, sy'n awgrymu cysylltiad posibl rhwng y Rhidian a choleg enwog Llanilltud Fawr.

Dywedir ymhellach fod Rhidian yn gyfoeswr â Macsen Wledig (sy'n anhebygol) a'i fod wedi troi Brynach Wyddel, brenin Brycheiniog, yn Gristion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]