Rhestr o Siroedd Maryland

Dyma restr o'r 24 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Maryland yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
FIPS
[golygu | golygu cod]Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. [2] Cod Maryland yw 24, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 24XXX.
Rhestr
[golygu | golygu cod]| Sir |
Cod FIPS [3] | Sedd sirol[4][5] | Sefydlu[4][5] | Tarddiad[4] | Etymoleg[4] | Baner | Sêl |
Poblogaeth[6] | Maint[5][7] | Map |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Allegany County | 001 | Cumberland | 1789 | O ran o Washington County. | O air y llwyth brodorol Lenape oolikhanna, sef "ffrwd hardd" | 74,012 | 430 sq mi (1,114 km2) | |||
| Anne Arundel County | 003 | Annapolis | 1650 | O ran o St. Mary's County. | Anne Arundel oedd enw morwynol gwraig Cecil Calvert, 2il Barwn Baltimore. Rhwng 1654 a 1658 fe'i gelwid yn Divine Providence County gan ymsefydlwyr Piwritanaidd | 550,488 | 588 sq mi (1,523 km2) | |||
| Baltimore County | 005 | Towson | 1659 | Ffurfiwyd allan o diriogaeth heb ei threfnu | Cecil Calvert, 2il Barwn Baltimore, perchennog cyntaf trefedigaeth Maryland | 817,455 | 682 sq mi (1,766 km2) | |||
| Baltimore City | 510 | Baltimore | 1851 | Sefydlwyd ym 1729. Ymwahanodd o Baltimore County ym 1851 | Cecil Calvert, 2il Barwn Baltimore, perchennog cyntaf trefedigaeth Maryland | 621,342 | 92 sq mi (238 km2) | |||
| Calvert County | 009 | Prince Frederick | 1654 | Ffurfiwyd fel Patuxent County allan o diriogaeth heb ei threfnu. Ailenwyd yn Calvert County ym 1658 | Teulu Calvert barwniaid Baltimore; cyn 1658 ei henw oedd Patuxent County, ar ôl llwyth Americaniad Brodorol y Patuxent | 89,628 | 345 sq mi (894 km2) | |||
| Caroline County | 011 | Denton | 1773 | O rannau o Dorchester County a Queen Anne's County | Arglwyddes Caroline Eden, merch Charles Calvert, 5ed Barwn Baltimore | 32,718 | 326 sq mi (844 km2) | |||
| Carroll County | 013 | Westminster | 1837 | O rannau o Baltimore County a Frederick County | Charles Carroll o Carrollton, aelod o'r Gyngres Gyfandirol a arwyddodd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau | 167,217 | 452 sq mi (1,171 km2) | |||
| Cecil County | 015 | Elkton | 1672 | O rannau o Baltimore County a Kent County | Cecil Calvert, 2il Barwn Baltimore | 101,696 | 418 sq mi (1,083 km2) | |||
| Charles County | 017 | La Plata | 1658 | o diriogaeth heb ei threfnu | Charles Calvert, 3ydd Barwn Baltimore, ail berchennog trefedigaeth Maryland | 150,592 | 643 sq mi (1,665 km2) | |||
| Dorchester County | 019 | Cambridge | 1668 | From unorganized territory | Dorchester yn Dorset, Lloegr; roedd Iarll Dorset yn gyfaill i'r teulu Calvert | 32,551 | 540 sq mi (1,399 km2) | |||
| Frederick County | 021 | Frederick | 1748 | O ran o Prince George's County | Frederick Calvert, 6ed Barwn Baltimore, perchennog terfynol trefedigaeth Maryland | 239,582 | 667 sq mi (1,728 km2) | |||
| Garrett County | 023 | Oakland | 1872 | O ran o Allegany County | John Work Garrett, Llywydd cwmni rheilffordd Baltimore ac Ohio | 29,854 | 656 sq mi (1,699 km2) | |||
| Harford County | 025 | Bel Air | 1773 | O ran o Baltimore County | Henry Harford, plentyn siawns Frederick Calvert, 6ed Barwn Baltimore | 248,622 | 527 sq mi (1,365 km2) | |||
| Howard County | 027 | Ellicott City | 1851 | O rannau o Anne Arundel County a Baltimore County | John Eager Howard, swyddog milwrol yn Rhyfel Annibyniaeth America swyddog a llywodraethwr Maryland | 299,430 | 254 sq mi (658 km2) | |||
| Kent County | 029 | Chestertown | 1642 | From tiriogaeth heb ei threfnu | Ar ôl Swydd Caint yn Lloegr | 20,191 | 414 sq mi (1,072 km2) | |||
| Montgomery County | 031 | Rockville | 1776 | O ran o Frederick County | Richard Montgomery, Cadfridog yn Rhyfel Annibyniaeth America | 1,004,709 | 507 sq mi (1,313 km2) | |||
| Prince George's County | 033 | Upper Marlboro | 1696 | O rannau o Calvert County a Charles County | Siôr, Tywysog Denmarc, priod Anne, brenhines Prydain Fawr | 881,138 | 498 sq mi (1,290 km2) | |||
| Queen Anne's County | 035 | Centreville | 1706 | O rannau o Talbot County | Anne, brenhines Prydain Fawr | 48,595 | 510 sq mi (1,321 km2) | |||
| Somerset County | 039 | Princess Anne | 1666 | O diriogaeth heb ei threfnu. | Mary, Arglwyddes Somerset, chwaer-yng-nghyfraith Cecil Calvert, 2il Barwn Baltimore | 26,253 | 611 sq mi (1,582 km2) | |||
| St. Mary's County | 037 | Leonardtown | 1637 | O diriogaeth heb ei threfnu. Yn cael ei alw'n Potomac County rhwng 1654 a 1658. | Y Forwyn Fair, y sir gyntaf i gael enw mewn tiriogaeth y bwriadwyd i fod yn hafan i Gatholigion | 108,987 | 611 sq mi (1,582 km2) | |||
| Talbot County | 041 | Easton | 1662 | O ran o Kent County | Grace, Arglwyddes Talbot, chwaer Cecil Calvert, 2il Barwn Baltimore | 38,098 | 477 sq mi (1,235 km2) | |||
| Washington County | 043 | Hagerstown | 1776 | O ran o Frederick County | George Washington, Arlywydd 1af yr Unol Daleithiau | Link to image | 149,180 | 468 sq mi (1,212 km2) | ||
| Wicomico County | 045 | Salisbury | 1867 | O rannau o Somerset County a Worcester County | Afon Wicomico River; yn iaith y llwyth Lenape mae wicko mekee yn golygu "man lle mae tai yn cael eu hadeiladu" | 100,647 | 400 sq mi (1,036 km2) | |||
| Worcester County | 047 | Snow Hill | 1742 | O ran o Somerset County | Mary Arundel, gwraig Syr John Somerset, mab Henry Somerset, Ardalydd 1af Swydd Gaerwrangon, a chwaer Anne Arundel, gwraig Cecil Calvert, 2il Barwn Baltimore | 51,578 | 695 sq mi (1,800 km2) |
}
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae yna 24 sir ac ardaloedd cyfwerth â siroedd yn nhalaith Maryland. Er ei bod yn ddinas annibynnol yn hytrach na sir, ystyrir bod Dinas Baltimore yn hafal i sir at y mwyafrif o ddibenion ac mae'n gyfwerth â sir. Enwyd llawer o siroedd Maryland i anrhydeddu perthnasau i'r Barwniaid Baltimore, a oedd yn berchnogion trefedigaeth Maryland ers ei sefydlu ym 1634 hyd 1771. Roedd y Barwniaid Baltimore yn Gatholigion Rhufeinig, a bwriad George Calvert, Barwn 1af Baltimore, yn wreiddiol oedd i'r drefedigaeth bod yn hafan i Gatholigion Lloegr, ond am y rhan fwyaf o'i hanes bu mwyafrif o Brotestaniaid n byw yn Maryland. [8]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y sir ddiwethaf i'w sefydlu yn Maryland ym 1872 pan grëwyd Garrett County allan o rannau o Allegany County. [4] Fodd bynnag, bu nifer o newidiadau i ffiniau sirol ers yr amser hwnnw, yn fwyaf diweddar pan amsugnwyd rhannau o ddinas Takoma Park a fu gynt yn rhan o Prince George's County i mewn i Montgomery County ym 1997. [9]
Ac eithrio Baltimore (sy'n ddinas annibynnol) y sir yw uned ddiofyn llywodraeth leol y dalaith. O dan gyfraith Maryland, mae siroedd yn arfer pwerau a gedwir yn y mwyafrif o daleithiau eraill ar y lefelau trefol neu daleithiol, felly nid oes llawer o gymhelliant i gymuned ymgorffori. Mae llawer o gymunedau mwyaf poblog ac economaidd bwysig y wladwriaeth, fel Bethesda, Silver Spring, Columbia, a Towson yn anghorfforedig ac yn derbyn eu gwasanaethau trefol o'r sir. Mewn gwirionedd, nid oes bwrdeistrefi corfforedig o gwbl yn Baltimore County na Howard County. Mae'r hyn sy'n cyfateb i'r sir hefyd yn darparu ysgolion cyhoeddus - nid yw ardaloedd ysgolion fel haen o lywodraeth ar wahân yn bodoli yn Maryland.
Yn gyffredinol, mae gan Ddinas Baltimore yr un pwerau a chyfrifoldebau â'r siroedd yn y dalaith. Mae'n endid sydd bron wedi'i amgylchynu gan Baltimore County ond ar wahân iddo.
Map dwysedd poblogaeth
[golygu | golygu cod]Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "FIPS 6-4 - County Names and Codes of the US". web.archive.org. 2013-09-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ County FIPS Code Listing for the State of MARYLAND adalwyd 24 Ebrill 2020
- 1 2 3 4 5 "Counties". Maryland Manual Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-12. Cyrchwyd 2007-06-24.
- 1 2 3 National Association of Counties. "NACo - Find a county". Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 25, 2007. Cyrchwyd 2008-04-30.
- ↑ "U.S. Census website". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2012-08-15.
- ↑ "Maryland QuickFacts". U.S. Census Bureau. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-17. Cyrchwyd 2007-06-22.
- ↑ Brugger, Robert J. (1988). Maryland: A Middle Temperament, 1634–1980. Baltimore: Johns Hopkins Press. ISBN 0-8018-3399-X.
- ↑ "Washingtonpost.com: As Unification Nears, Takoma Park Residents Still a Divided People". www.washingtonpost.com. Cyrchwyd 2020-04-24.
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD