Rhestr o Blwyfi Louisiana

Oddi ar Wicipedia
Plwyfi Louisiana

Dyma restr o'r 64 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw Parish yn Nhalaith Kansas yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]

Rhestr[golygu | golygu cod]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Rhennir talaith Unol Daleithiau Louisiana yn 64 plwyf (Ffrangeg: paroisses, Sbaeneg: parroquias) yn yr un modd ag y rhennir Alaska yn fwrdeistrefi, a rhennir 48 o daleithiau eraill yn siroedd.

Mae tri deg wyth o blwyfi yn cael eu llywodraethu gan gyngor o'r enw Rheithgor Heddlu. Mae gan y 26 sy'n weddill wahanol fathau eraill o lywodraeth, gan gynnwys: llywydd y cyngor, rheolwr cyngor, comisiwn plwyf, a phlwyf / dinas gyfunol. [2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd Louisiana o drefedigaethau Ffrengig a Sbaenaidd, a oedd ill dau yn Gatholig Rufeinig yn swyddogol. Roedd llywodraeth drefedigaethol leol yn seiliedig ar blwyfi, sef y rhanbarthau eglwysig lleol.

Yn dilyn Pryniant Louisiana ym 1803, rhannodd y cyngor deddfwriaethol tiriogaethol Diriogaeth Orleans (rhagflaenydd talaith Louisiana) yn 12 sir. Roedd ffiniau'r siroedd hyn wedi'u diffinio'n wael, ond roeddent yn cyd-fynd yn fras â'r plwyfi trefedigaethol, ac felly'n defnyddio'r un enwau. [3]

Ar 31 Mawrth, 1807, creodd y ddeddfwrfa diriogaethol 19 plwyf heb ddiddymu'r hen siroedd (parhaodd y term hwnnw i fodoli tan 1845). Ym 1811, cynhaliwyd confensiwn cyfansoddiadol i baratoi ar gyfer derbyn Louisiana i'r Undeb. [4] Trefnodd hwn y dalaith yn saith rhanbarth barnwrol, pob un yn cynnwys grwpiau o blwyfi. Ym 1816, defnyddiodd y map swyddogol cyntaf o'r dalaith y term plwyf, fel y gwnaeth cyfansoddiad 1845. Ers hynny, y term swyddogol ar gyfer prif adrannau sifil Louisiana yw plwyfi.

Ymunodd Catahoula Parish â'r 19 plwyf gwreiddiol ym 1808, ac ym 1810 crëwyd pedwar plwyf ychwanegol o diriogaeth Gorllewin Florida bu gynt yn eiddo i Sbaen.

Erbyn Ebrill 1812, rhanwyd Attakapas Parish i ffurfio St. Martin Parish a St Mary parish. Ar 30 Ebrill, derbyniwyd y dalaith i'r Undeb gyda 25 plwyf.

Erbyn 1820, ychwanegwyd Washington Parish, a rhannodd Feliciana Parish i ffurfio East Feliciana Parish a West Feliciana Parish ym 1824. Y flwyddyn nesaf, cerfiwyd Jefferson Parish allan o Orleans Parish. Erbyn 1830, roedd Claiborne Parish wedi'i greu, ac roedd yr hen Warren Parish wedi'i amsugno i Ouachita Parish, dim ond i ddychwelyd fel Carroll Parish ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ym 1838, crëwyd Caddo Parish Madison Parish a Caldwell Parish allan o Natchitoches Parish. Ym 1839, ffurfiwyd Union Parish was allan o Ouachita Parish, a ffurfiwyd Calcasieu Parish allan o St. Landry Parish ym 1840.

Crëwyd 5 plwyf newydd ym 1843: Bossier, DeSoto, Franklin, Sabine, a Tensas. Ffurfiwyd Morehouse Parish a Vermilion Parish allan o blwyfi Ouachita a Lafayette ym 1844. Ym 1845 crëwyd Jackson Parish, rhoddwyd y gorau i'r hen unedau sirol, a chyfeiriwyd at yr unedau yn swyddogol fel "plwyfi".

Ym 1848, ffurfiwyd Bienville Parish allan o Claiborne Parish. Ym 1852, caffodd Winn Parish ei greu.

Ym 1853, ailenwyd Lafourche Interior Parish yn Lafourche Parish. Yn ystod cyfnod yr Ailadeiladu, (ar ôl Rhyfel Cartref America) creodd llywodraeth y dalaith nifer o blwyfi newydd. Y cyntaf oedd Iberia Parish a Richland Parish. Dilynodd plwyfi Tangipahoa Parish a Grant Parish ym 1869. Ym 1870, crëwyd pumed plwyf yr Ailadeiladu, Cameron Parish, a'i olynu gan y chweched, seithfed, a'r wythfed plwyf (Red River Parish, Vernon, Parish a Webster Parish,) ym 1871. Y nawfed plwyf i gael ei ffurfio o dan y rheolaeth Weriniaethol Radical oedd Lincoln Parish, a enwyd ar ôl y diweddar arlywydd ac a ffurfiwyd ym 1873. Ym 1877, rhannodd hen blwyf Carroll yn blwyfi Dwyrain a Gorllewin Carroll, a elwir yn answyddogol yn ddegfed ac unfed ar ddeg plwyf cyfnod yr Ailadeiladu, wrth i'r prosiect dod i ben y flwyddyn honno.

Ni ffurfiwyd unrhyw blwyfi newydd tan 1886, pan ffurfiwyd Academi Parish o St. Landry. Yna ni ffurfiwyd unrhyw blwyfi newydd hyd 1908, pan ddaeth hanner gorllewinol Catahoula Parish yn LaSalle Parish.

Ym 1910, cododd rhif y plwyfi i 61 gyda chreu Evangeline Parish, a chrëwyd y 62ain, 63ain, a'r 64ain plwyfi (Allen, Beauregard, a Jefferson Davis) o ardaloedd Calcasieu Parish. Bu sawl newid ffin fach wedi hynny, a'r mwyaf sylweddol oedd rhannu Llyn Pontchartrain ymhlith plwyfi Tangipahoa, St. Tammany, Orleans, Jefferson, St. John the Baptist, a St Charles ym 1979.

Cyn blwyfi[golygu | golygu cod]

  • Attakapas Parish, yn bodoli o 1805 i 1811. [3]
  • Biloxi Parish, ffurfiwyd ym 1811 o diriogaeth Gorllewin Florida. Cafodd ei ddileu ym 1812 pan gafodd ei drosglwyddo i diriogaeth Mississippi. [3]
  • Carroll Parish ffurfiwyd ym 1838 o ran o Ouachita Parish. Ym 1877, fe'i rhannwyd i ffurfion East Carroll Parish and West Carroll Parish. [3]
  • Feliciana Parisha ffurfiwyd ym 1810 o diriogaeth Gorllewin Florida. Ym 1824, fe'i rhannwyd yn East Feliciana Parish a West Feliciana Parish. [3]
  • German Coast Parish yn bodoli o 1805 to 1807.
  • Opelousas Parish
  • Pascagoula Parish ffurfiwyd ym 1811 o diriogaeth Gorllewin Florida. Cafodd ei ddileu ym 1812 pan gafodd ei drosglwyddo i diriogaeth Mississippi. [3]
  • Warren Parish ffurfiwyd ym 1811 o ran o Concordia Parish, a'i huno a Concordia Parish a Ouachita Parish ym 1814. [3]

Map dwysedd poblogaeth[golygu | golygu cod]

Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. "Parish Government Structure - Police Jury Association of Louisiana". www.lpgov.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-03. Cyrchwyd 2020-04-22.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 "Bryansite - Louisiana Parishes". www.bryansite.com. Cyrchwyd 2020-04-22.
  4. "Louisiana's Admission to the Union (1812)". penelope.uchicago.edu. Cyrchwyd 2020-04-22. no-break space character in |title= at position 35 (help)