Rhestr o Siroedd Maine

Dyma restr o'r 16 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Maine yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Rhestr
[golygu | golygu cod]FIPS
[golygu | golygu cod]Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Maine yw 23, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 23XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]
| Sir |
Cod FIPS [3] | Sedd[4] | Sefydlwyd[4] | Tarddiad | Etimoleg | Poblogaeth[4][5] | Maint[4][5] | Map |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Androscoggin County | 001 | Auburn | 1854 | O rannau o Cumberland County, Kennebec County, a Lincoln County | O lwyth Americaniad Brodorol yr Androscoggin | 107,233 | 497 sq mi (1,287 km2) |
|
| Aroostook County | 003 | Houlton | 1839 | O ddarnau o Penobscot County, a Washington County | Gair Americaniad Brodorol sy'n golygu afon hardd . | 68,628 | 6,829 sq mi (17,687 km2) |
|
| Cumberland County | 005 | Portland | 1761 | Fel Cumberland County, Massachusetts o rannau o York County | Y Tywysog William Augustus, Dug Cumberland, mab Siôr II, brenin Prydain Fawr. | 289,977 | 1,217 sq mi (3,152 km2) |
|
| Franklin County | 007 | Farmington | 1838 | O rannau o Kennebec County, Oxford County, a Somerset County | Benjamin Franklin, Un a lofnododd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, gwyddonydd, argraffydd, a diplomydd. | 29,991 | 1,744 sq mi (4,517 km2) |
|
| Hancock County | 009 | Ellsworth | 1790 | Fel Hancock County, Massachusetts, o ran o Lincoln County | John Hancock (1737–1793), Un a lofnododd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau | 54,659 | 2,351 sq mi (6,089 km2) |
|
| Kennebec County | 011 | Augusta | 1799 | Fel Kennebec County, Massachusetts o ran o Lincoln County | O Afon Kennebec ym Maine. | 119,980 | 951 sq mi (2,463 km2) |
|
| Knox County | 013 | Rockland | 1860 | O rannau o Lincoln County a Waldo County | Henry Knox (1750–1806), Ysgrifennydd rhyfel cyntaf yr Unol Daleithiau (1789-1794), a oedd yn byw yn Thomaston, Maine. | 39,855 | 1,142 sq mi (2,958 km2) |
|
| Lincoln County | 015 | Wiscasset | 1760 | Fel Lincoln County, Massachusetts ran o York County | Dinas Lincoln, Lloegr. | 33,969 | 700 sq mi (1,813 km2) |
|
| Oxford County | 017 | Paris | 1805 | Fel Oxford County, Massachusetts o rannau o Cumberland County a York County | Yn ôl pob tebyg ar ôl Oxford, Massachusetts. | 57,202 | 2,175 sq mi (5,633 km2) |
|
| Penobscot County | 019 | Bangor | 1816 | Fel Penobscot County, Massachusetts o ran o Hancock County | O lwyth brodorol y Penobscot. | 152,692 | 3,556 sq mi (9,210 km2) |
|
| Piscataquis County | 021 | Dover-Foxcroft | 1838 | O rannau o Penobscot County a Somerset County | Gair llwyth yr Abenaki am ddyfroedd cyflym. | 16,931 | 4,377 sq mi (11,336 km2) |
|
| Sagadahoc County | 023 | Bath | 1854 | From part of Lincoln County | Gair Brodorol Americanaidd sy'n golygu ceg afon fawr. | 35,149 | 370 sq mi (958 km2) |
|
| Somerset County | 025 | Skowhegan | 1809 | Fel Somerset County, Massachusetts O rannau o Kennebec County | Gwlad yr Haf Lloegr. | 51,113 | 4,095 sq mi (10,606 km2) |
|
| Waldo County | 027 | Belfast | 1827 | O rannau o Hancock County, Kennebec County a Lincoln County | Samuel Waldo, Tirfeddiannwr a milwr trefedigaethol yng Ngwarcahe Louisbourg, 1745. | 39,155 | 853 sq mi (2,209 km2) |
|
| Washington County | 029 | Machias | 1790 | Fel Washington County, Massachusetts o ran o Lincoln County | George Washington, Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau. | 31,625 | 3,255 sq mi (8,430 km2) |
|
| York County | 031 | Alfred | 1652 | Fel York County, Massachusetts o ran ddeheuol ardal Maine. Ailenwyd yn York gan Massachusetts ym 1668 | Efrog, Lloegr, man geni Christopher Levett a geisiodd setlo'r ardal gyntaf. | 201,169 | 1,271 sq mi (3,292 km2) |
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae un ar bymtheg sir yn nhalaith Maine. Cyn dod yn dalaith, roedd Maine yn rhan o dalaith Massachusetts ac fe’i galwyd yn Ardal Maine. Daeth Maine yn dalaith ar 15 Mawrth, 1820 fel rhan o Gyfaddawd Missouri. Diffiniwyd ffiniau naw o'r un ar bymtheg sir tra roedd Maine yn dal i fod yn rhan o Massachusetts, ac felly maent yn hŷn na'r dalaeth ei hun. Hyd yn oed ar ôl 1820, bu Ymerodraeth Prydain (perchenogion Canada) yn dadlau parthed union leoliad ffin ogleddol Maine, nes i'r cwestiwn gael ei setlo wedi i siroedd y gogledd lofnodi y cytundeb derfynol ar y pwnc, Cytundeb Webster-Ashburton, a lofnodwyd ym 1842. [6] Roedd bron y cyfan o Aroostook County yn destun dadl cyn i'r cytundeb gael ei lofnodi. [7]
Y sir gyntaf i gael ei chreu oedd York County, a grëwyd fel York County, Massachusetts gan lywodraeth Gwladfa Bae Massachusetts ym 1652 i lywodraethu tiriogaethau yr oedd yn hawlio yn neheidir Maine. [8] Ni chrëwyd unrhyw siroedd newydd ers 1860, pan gafodd Knox County a Sagadahoc County eu creu. Mae'r siroedd mwyaf poblog yn tueddu i gael eu lleoli yn rhan dde-ddwyreiniol y dalaith, ar hyd arfordir yr Iwerydd. Mae'r siroedd mwyaf o ran arwynebedd tir yn fewndirol ac ymhellach i'r gogledd. Daw enwau siroedd Maine o gymysgedd o ffynonellau Prydeinig, Americanaidd a Brodorol America, gan adlewyrchu treftadaeth cyn-drefedigaethol, drefedigaethol a chenedlaethol Maine. [7]
Map dwysedd poblogaeth
[golygu | golygu cod]Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "FIPS Publish 6-4". National Institute of Standards and Technology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2007-04-11.
- ↑ "EPA County FIPS Code Listing". EPA.gov. Cyrchwyd 2008-02-23.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 National Association of Counties. "NACo - Find a county". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-11. Cyrchwyd 2008-04-30.
- ↑ 5.0 5.1 "Maine QuickFacts from the US Census Bureau". State & County QuickFacts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-04-10. Cyrchwyd 2007-04-18.
- ↑ Bassett, John (1913). A Short History of the United States. New York: Macmillan. t. 437. OCLC 869001. pp. 437–438
- ↑ 7.0 7.1 Clark, Charles E. (1990). Maine: A History. University Press of New England. ISBN 0-87451-520-3.
- ↑ Clark, Charles E. (1970). The Eastern Frontier: The Settlement of Northern new England, 1610–1763. New York: Alfred A. Knopf. OCLC 94907. p. 50
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD