Rhegen dŵr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhegen Ddŵr)
Rhegen dŵr
Rallus aquaticus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Gruiformes
Teulu: Rallidae
Genws: Rallus[*]
Rhywogaeth: Rallus aquaticus
Enw deuenwol
Rallus aquaticus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhegen dŵr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: rhegennod dŵr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Rallus aquaticus; yr enw Saesneg arno yw Water rail. Mae'n perthyn i deulu'r Rhegennod (Lladin: Rallidae) sydd yn urdd y Gruiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn R. aquaticus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Aderyn cymharol fychan ydyw, 23–26 cm o hyd. Mae'i gefn yn frown a'i ran isaf yn llwydlas, gyda rhesi duon ar yr ystlys. Mae'r cywion yn ddu. Pryfed ac anifeiliaid dŵr bychan yw eu prif fwyd.

Mae'n aderyn cymharol gyffrein mewn cynefinoedd addas yng Nghymru, ond gall fod yn aderyn anodd iawn ei weld, gan ei fod yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn y tyfiant. Gall fod yn haws ei glywed yn y tymor nythu, pan mae'n rhoi gwich tebyg i sŵn mochyn.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r rhegen dŵr yn perthyn i deulu'r Rhegennod (Lladin: Rallidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Ceiliog y dŵr Gallicrex cinerea
Iâr ddŵr fechan Gallinula angulata
Rhegen Baillon Porzana pusilla
Rhegen Nkulengu Himantornis haematopus
Rhegen ddu Affrica Amaurornis flavirostra
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Rallus aquaticus

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Rhegen dŵr gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.