Rhedynach teneuwe
Rhedynach teneuwe | |
---|---|
Rhydynach teneuwe o Goed Cae Dafydd 25 Rhagfyr 1990 | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ffylwm: | Pteridophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Hymenophyllales |
Teulu: | Hymenophyllaceae |
Genws: | Hymenophyllum |
Rhywogaeth: | H. tunbrigense |
Enw deuenwol | |
Hymenophyllum tunbrigense (L.) Sm. |
Tyf Rhedynach teneuwe neu redynach teneuwe Tunbridge (Hymenophyllum tunbrigense) ar greigiau cysgodol gwlybion, ac weithiau ar foncyffion coed. Mae'n perthyn i'r genws Hymenophyllum, genws o redyn yn nheulu Hymenophyllaceae. Fe'i ceir yn bennaf yng Ngogledd-Orllewin Cymru, ond hefyd mewn ambell le yn Sir Benfro ac yma ac acw trwy Dde-Cymru. O fewn Ynysoedd Prydain tyf yn bennaf yn y gorllewin. Yn Ewrop mae iddi ddosbarthiad sy'n dilyn yr Iwerydd, gyda phoblogaethau bychain yn yr Almaen, Ynys Cors a chanolbarth yr Eidal. Tyf hefyd o gwmpas y byd: Cenia, De Affrica, Twrci, De Carolina, Canolbarth America, Awstralia a Seland Newydd.
Mae iddi ffrondiau (2.5 - 11.5 cm o hyd), mae'n wyrddlas a bron yn dryloyw. Dim ond un redynen arall yng Nghymru sy'n debyg iddi, sef Rhedynach teneuwe Wilson (Hymenophyllum wilsonii). Y nodwedd amlycaf er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy rywogaeth yw gwefysau danheddog ar frig yr Indusium, sy'n amlwg iawn o dan chwydd wydr.
Safleoedd yng Nghymru
[golygu | golygu cod]- Cwm Dulyn
- Clogwyn y Garreg
- Coed Cae Dafydd
- Ceunant, Llanberis
- Cwm Cynfal
- Ynys Gybi
- Cerrig y Rhwydwr
- Llyn Eiddew-Mawr[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Welsh Ferns, G. Hutchinson a B.A.Thomas, 1996. ISBN 07200 04 35 7
- A Natural History of Britain's Ferns, Christopher N.Page, 1988, ISBN 0002193825
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Snowdonia National Park, William Condry, ISBN 000631953X