Llyn Eiddew Mawr
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 22 acre |
| Gerllaw | Llyn Eiddew Bach |
| Cyfesurynnau | 52.884796°N 4.013791°W |
![]() | |
Mae Llyn Eiddew Mawr yn llyn yng Ngwynedd.
Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 22 acer, i'r dwyrain o bentref Talsarnau a fymryn i'r gorllewin o gopaon Moel Ysgyfarnogod a Craig Ddrwg yn y Rhinogau. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer cyflenwi dŵr ac ar gyfer pysgota. Mae llyn arall, llawer llai, Llyn Eiddew-bach gerllaw. Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Artro gerllaw Cwm Bychan.
I'r dwyrain o Lyn Eiddew Mawr ceir Llyn Du, llyn bychan dan glogwynni Craig Ddrwg.
