Llyn Du (Talsarnau)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Du
Math Llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.849857°N 3.997841°W Edit this on Wikidata
Erthygl am y llyn yng nghymuned Talsarnau yw hon. Am lynnoedd eraill o'r un enw gweler Llyn Du (gwahaniaethu).

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Du (nis enwir ar y map Arolwg Ordnans). Fe'i lleolir yng nghymuned Talsarnau yn ardal Ardudwy Uwch Artro, Meirionnydd.

Llyn Du

Saif y llyn bychan hwn 1,750 troedfedd[1] i fyny yn rhan ogleddol y Rhinogydd, tua 9 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Harlech, dan glogwynni Craig Ddrwg. Ychydig yn is i lawr i gyfeiriad y gorllewin ceir Llyn Eiddew Mawr.[2]

Ceir brithyll yn y llyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.