Neidio i'r cynnwys

Reifflwyr Latfia

Oddi ar Wicipedia
Reifflwyr Latfia
Enghraifft o:troedfilwr Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTachwedd 1920 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Carfan filwrol a ddechreuodd ffurfio tua 1915 yn Latfia gyda'r nod o amddiffyn tiriogaethau'r Baltig rhag bygythiadau Ymerodraeth yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Reifflwyr Latfia (Latfieg: Latviešu strēlnieki; Rwsieg Латышские стрелки; wyddor Ladin Latyshskie strelki).

Ar y dechrau roedd yn cynnwys gwirfoddolwyr, ac o 1916 dechreuwyd consgriptio pobl yn Latfia i fod yn filwyr. Cofrestrwyd tua 40,000 o filwyr i'r reifflwyr.

Sefydlu

[golygu | golygu cod]
Gwirfoddolwyr o 3ydd Bataliwn Reifflwyr Latfia, Kurzeme (1915)

Rhwng 1915 a 1917 bu bataliynau'r reifflwyr yn ymladd ym Myddin Ymerodraeth Rwsia yn erbyn yr Almaenwyr ar hyd Afon Daugava.

Wrth i'r Almaenwyr symud ymlaen i Latfia, roedd byddin Rwsia yn gweld y byddai unedau o'r fath yn arbennig o effeithiol yn erbyn yr Almaenwyr. Roedd y Latfiaid yn adnabod yr ardal ac roedd ganddynt forâl uchel. Er gwaethaf polisïau'r Ymerodraeth oedd yn gorfodi'r iaith Rwsieg a diwylliant Rwsaidd ar Latfiw (русификация, rwseiddio), roedd teimladau cenedlaetholgar Latfia yn fwy gwrth-Almaenig.[1] Yn Jelgava roedd dwy fataliwn o Warchodlu Cartref Latfia eisoes wedi dal Byddin Ymerodrol yr Almaen yn ôl.

Rhwng Rhagfyr 1916 ac Ionawr 1917 dioddefodd Reifflwyr Latfia golledion trwm yn ystod ymosodiad y Nadolig. I ddechrau roedd y reifflwyr yn llwyddiannus ond heb ddal ati gyda'r ymosodiad fe'u gorfodwyd i encilio gan yr Almaenwyr, gan ddioddef colledion difrifol iawn (gyda thua 9,000 wedi eu hanafu o gyfanswm o 26,000 yn y fyddin tsaraidd gyfan). Achosodd y golled hon gryn anfodlonrwydd ymhlith bataliynau reifflwyr Latfia yn erbyn cadfridogion Rwsia a’r tsar. O ganlyniad, dechreuodd aelodau’r llu ochri gyda'r Bolsieficiaid a oedd o blaid tynnu allan o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

"Lleng Latfiaidd"

[golygu | golygu cod]

Roedd sefydlu Reffilwyr Latfia yn foment trawsffurfiol yn wleidyddol yn ogystal ag yn filwrol i Latfia. Unedau Reifflwyr oedd unedau milwrol cyntaf Latfia o dan reolaeth Latfiaid, ac wrth i'r gwirfoddolwyr cyntaf adael o Riga ar gyfer hyfforddiant sylfaenol, fe ledodd don o wrthdystio dros y wlad. Roedd y bataliynau cyntaf yn cynnwys gwirfoddolwyr yn bennaf, yn enwedig ffoaduriaid o Courland a gweithwyr o'r ffatrïoedd a symudwyd i Rwsia fewnol o Riga. Yn ddiweddarach ymunodd nifer o Latfia o unedau Rwsiaidd eraill neu fe'u trosglwyddwyd i Reifflwyr Latfia.[2]

Reifflwyr Coch Laftia

[golygu | golygu cod]
Bathodyn brest Reifflwyr Coch Latfia (1919)

Ar ôl Chwyldro Chwefror a ddaeth â diwedd yr Ymerodraeth Tsaraidd, ymunodd tua 35,000 o reifflwyr Latfia â'r Bolsieficiaid ym mis Mai 1917; daethant yn adnabyddus fel Reifflwyr Coch Latfia (Latfieg: Latviešu sarkanie strēlnieki, Rwsieg: Красные латышские стрелки, Krasnyje latyschskije strelki),[3] a gymerodd ran yn llwyddiannus yn Rhyfel Cartref Rwsia. Ar 26 Tachwedd 1917, ychydig wythnosau ar ôl Chwyldro'r Hydref, cyrhaeddodd 6ed Catrawd Tukums Reifflwyr Latfia St Petersburg gan ymgymryd yn uniongyrchol â'r dasg o fod yn amddiffynwyr personol Vladimir Lenin. Safodd y reifflwyr o Latfia yn wyliadwrus o flaen drws swyddfa Lenin yn Smolny i amddiffyn pennaeth y blaid Bolsieficaidd yn y dyddiau tyngedfennol hynny i'r chwyldro comiwnyddol. Aeth Catrawd Reifflwyr Latfia hefyd gyda Lenin a'r holl lywodraeth Bolsieficaidd ar y daith drên a drosglwyddodd i bob pwrpas ym 1918 weithrediaeth a rheolaeth Rwsia o Petersburg i Moscow.

Cymerodd bataliynau Latfia ran yn y gwaith o atal gwrthryfeloedd gwrth-Bolsieficaidd ym Moscow a Yaroslavl ym 1918, a buont yn ymladd yn erbyn cadfridogion Fyddin Wen Denikin, Yudenich a Vrangel. Ym 1919 dyfarnwyd y wobr filwrol uchaf ar y pryd i'r bataliynau hyn, Baner Goch er Anrhydedd Vtsik. Yn ddiweddarach daeth y swyddog reiffl o Latfia, Jukums Vācietis, yn bennaeth pennaf y Fyddin Goch. Ym 1919 bu Reifflwyr Latfia yn rhan o ymgais i sefydlu grym Sofietaidd yn Latfia, ond gorchfygwyd hwy gan wirfoddolwyr Almaenig Baltig yng ngorllewin Latfia, a chan wirfoddolwyr Pwylaidd a byddin newydd Latfia yn nwyrain Latfia.

Dioddefasant golledion mawr o bersonél oherwydd bod poblogrwydd syniadau Bolsieficaidd yn gostwng ymhlith Reifflwyr Latfia a Latfia yn gyffredinol, a chafodd y mwyafrif eu hail-leoli i ffryntiau eraill yn Rhyfel Cartref Rwsia. Gorchfygwyd gweddill lluoedd y Fyddin Goch yn Latfia gan wirfoddolwyr Almaenig Baltig o dan y Cadfridog von der Goltz ac unedau Latfia a oedd newydd eu ffurfio i ddechrau o dan y Cyrnol Kalpaks ac yn ddiweddarach o dan y Cyrnol Jānis Balodis, a oedd yn deyrngar i Weriniaeth Latfia yng ngorllewin Latfia; gan Fyddin Estonia gan gynnwys Brigâd Gogledd Latfia , ac yn olaf gan ymgyrch ar y cyd rhwng byddin Bwylaidd a newydd Latfia yn Latgale, de-ddwyrain Latfia.

Yn dilyn cytundeb heddwch 1920 rhwng Latfia a Rwsia Bolsiefic, dychwelodd 11,395 o gyn Reifflwyr Coch i Latfia.

Arhosodd cyn Reifflwyr eraill yn Rwsia Sofietaidd a chodi i swyddi blaenllaw yn y Fyddin Goch, y Blaid Gomiwnyddol, a gwasanaeth cudd y 'Cheka'. Pan feddiannodd yr Undeb Sofietaidd Latfia ym 1940, dychwelodd llawer o'r Reifflwyr Coch (a oedd wedi goroesi) i Latfia.

Roedd yr arweinwyr Comiwnyddol Sofietaidd enwocaf o Latfia cyn yr Ail Ryfel Byd o blith y Reifflwyr Coch: Martin Latsis, Jēkabs Peterss, Arvīds Pelše, Yan Karlovich Berzin, Yan Rudzutak, Pēteris Stučka, Robert Ekhe.

Strwythur

[golygu | golygu cod]
Cofeb i Reifflwyr Coch Latvia yn ninas Rwsieg fwyafrifol Latfia, Daugavpils
  • Brigâd Reifflau 1af Latfia (1-я Латышская стрелковая бригада):
    • Catrawd Reifflau 1af Latfia “Daugavgrīva”
    • 2il Gatrawd Reifflau Latfia “Riga”
    • 3edd Catrawd Reifflau Latfia “Kurzem”
    • 4ydd Catrawd Reifflau Latfia “Vidzeme”
  • 2il Frigâd Reifflau Latfia (2-я Латышская стрелковая бригада):
    • 5ed Catrawd Reifflau Latfia “Zemgale”
    • 6ed Catrawd Reifflau Latfia “Tukums”
    • 7fed Catrawd Reifflau Latfia “Bauska”
    • 8fed Catrawd Reifflau Latfia “Valmiera”

Annibyniaeth Latfia

[golygu | golygu cod]

Yn 1920, ar ôl arwyddo’r cytundeb heddwch rhwng y Bolsieficiaid a Latfia, dychwelodd tua 11,395 o filwyr adref, tra parhaodd eraill i wasanaethu gyda’r Fyddin Goch; arestiwyd llawer ohonynt a dienyddiwyd pob un ohonynt, ac eithrio Stučka (a fu farw ym 1932) a Pelše, yn ddiweddarach yn yr hyn a elwir yn Ymgyrch Latfia'r NKVD yn ystod y Braw Mawr (Большой террор) yng nghyfnod Stalin yn yr 1930au, pan ddaeth comiwnyddion o Latfiaid yn ddioddefwyr dynodedig y broses hon.

Ym 1967, enwyd 13eg Catrawd Reiffl y Gwarchodlu ar ôl Reifflwyr Coch Latfia, a drawsnewidiwyd yn ddiweddarach yn 25ain Frigâd Reiffl Modur y Gwarchodlu ar hyn o bryd.

Latfia'n ad-ennill Annibyniaeth

[golygu | golygu cod]

Yn 1991 ad-enillodd Latfia ei hannibyniaeth.

Ar ôl cwymp y gyfundrefn Sofietaidd, daeth rôl hanesyddol Reifflwyr Latfia yn bwynt hollbwysig yn y ddadl wleidyddol a hanesyddol yn Latfia. Mae dadleuon brwd ynghylch a ddylid dymchwel y cerflun a gysegrwyd i Reifflwyr Coch Latfia a godwyd yn Riga ai peidio, gan fod rhai yn ei ystyried yn symbol comiwnyddol, tra bod eraill yn gweld y Reifflwyr fel gwladgarwyr beth bynnag eu gwleidyddiaeth. Arwydd o'r hyn sydd wedi newid hefyd yw'r ffaith bod Amgueddfa Meddiannaeth Latfia bellach yn meddiannu safle amgueddfa wreiddiol Reifflwyr Coch Latfia

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  • Dvēseļu putenis - ffilm "Storm Eira yr Einaid", gelwir hefyd 'Y Reifflwyr' (2019, yn Latfieg}

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-06-12. Cyrchwyd 2009-03-29.CS1 maint: archived copy as title (link)
  2. "100th anniversary of Latvian riflemen celebrated". Public Broadcasting of Latvia (yn Saesneg). 2015-08-01. Cyrchwyd 2019-03-06.
  3. Orlando Figes: Die Tragödie eines Volkes. Berlin, 1998, tud. 624.
Eginyn erthygl sydd uchod am Latfia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato