Rebecca Evans (soprano)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rebecca Evans
Ganwyd 19 Awst 1963 Edit this on Wikidata
Pontrhydyfen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Canwr, canwr opera, Cerddor Edit this on Wikidata
Math o lais Soprano Edit this on Wikidata

Soprano a anwyd ym Mhontrhydyfen, Cwm Afan, Castell-nedd Port Talbot yw Rebecca Evans (ganwyd Awst 1963).

Astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, Llundain. Mae wedi perfformio'n rheolaidd gyda Opera Genedlaethol Cymru, Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden, a'r Bayerische Staatsoper, München.

Mae wedi sefydlu gyrfa opera gadarn yn yr Unol Daleithiau, lle mae wedi canu rhan Susanna (Le Nozze di Figaro) i Santa Fe Opera, Adele (Die Fledermaus) i Opera Lyric Chicago; Zerlina (Don Giovanni), Ann Trulove (The Rake’s Progress) a Adina (L'elisir d'amore) i Opera San Francisco; a Susanna a Zerlina i Dŷ Opera'r Metropolitan, Efrog Newydd.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Rebecca Evans

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.