R.E. Griffith

Oddi ar Wicipedia
R.E. Griffith
Ganwyd5 Hydref 1911 Edit this on Wikidata
Aberpennar Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1975 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfarwyddwr Edit this on Wikidata

Roedd Robert Emrys Griffith (5 Hydref[1] 1911 - 25 Tachwedd 1975[2][3]), adnebir fel rheol fel R.E. Griffith, yn Gyfarwyddwr Urdd Gobaith Cymru ac awdur tair cyfrol ar hanes y mudiad.

Cefnogwr cynnar[golygu | golygu cod]

Addysgwyd R.E. Griffith yn Ysgol Ramadeg Aberpennar. Tra roedd yn ddisgybl yno gydag Walter P. John, sefydlodd y gangen gyntaf o Urdd Gobaith Cymru yn ne Cymru, a hynny yn Abercynon.[4]

Bu'n ffyddlon iawn i'r Urdd, a daeth maes o law, yn gyfarwyddwr arni. Ysgrifennodd dair gyfrol ar hanes y mudiad o'i sefydlu y 1922 hyd at ei dathliad hanner can mlwyddiant yn 1972. Ceir y cyfrolau yn y Gymraeg a'r Saesneg.

R.E. Griffith ac Arwisgiad 1969[golygu | golygu cod]

Gan i'r Urdd dderbyn gwahoddiad i fod yn rhan o ddathliadau Arwisgo'r Tywysog Siarl yn 1969 gofynnwyd i R.E. Griffith gynrychioli'r mudiad ar bwyllgor a sefydlwyd gan Fwrdd Croeso Cymru i gydlynnu digwyddiadau.[5]

Yn ystod y gwrthdarro dros ac yn erbyn Arwisgiad 1969 bu iddo fod yn chwyrn ei feirniadaeth o Llion Roberts, Golydydd papur Y Cymro. Roedd Roberts wedi canmol y Tywysog Siarl ar ei ddarlleniad Cymraeg yn y seremoni ym mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth, 1969 ond wedi canmol hefyd egwyddorion y bobl a gerddodd allan o'r pafiliwn wrth i'r tywysog ddechrau siarad. Doedd R.E. Griffith ddim yn cytuno ag hynny.[6]

Gwasanaethu[golygu | golygu cod]

Bu i Griffith gynrychioli'r Urdd fel rhan o ddirprwyaeth fwy o sefydliadau Cymraeg yn galw am ragor o ddarlledu teledu yn y Gymraeg. Roedd yn un o'r rhai aeth i gwrdd gyda chynrychiolwyr cwmni teledu TWW ym mis Gorffennaf 1958 i gryfhau darpariaeth iaith Gymraeg ar y teledu.[7]

Gwaddol[golygu | golygu cod]

Cymaint bu gwaddol R.E. Griffiths fel yn 2017 i'r Urdd hysbysebu swydd i berson greu archif ddigidol o hanes y mudiad ers 1972 - blwyddyn olaf llyfr fawr R.E. Griffith ar y mudiad.[8]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]