Arwisgiad Tywysog Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Arwisgiad 1969)
Arwisgiad Tywysog Cymru
Arwysgiad Edward II gan Edward I
Matharwisgiad Edit this on Wikidata
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Arwisgiad Tywysog Cymru yw'r seremoni o arwisgo mab hynaf teyrn Lloegr a rhoi’r teitl Tywysog Cymru iddo. Roedd y teitl ‘Tywysog Cymru’ wedi ei roi i etifedd gorsedd Lloegr ers 1301, pan roddodd y Brenin Edward I y teitl i'w fab fel symbol o reolaeth ar Gymru, ond nid oedd y teitl erioed wedi cael ei ddefnyddio’n ffurfiol mewn gwirionedd. Bu'n arferiad trefnu’r arwisgiad yn y Senedd yn Llundain[1] ond yn 1911 cynhaliwyd y seremoni am y tro cyntaf mewn lleoliad cyhoeddus, sef Castell Caernarfon. Yn y flwyddyn honno, cynhaliwyd Arwisgiad Tywysog Cymru, yn ddiweddarach Edward VIII, yn y castell, a chredir bod David Lloyd George wedi bod yn allweddol yn y gwaith o drefnu’r digwyddiad. Yn wahanol i Arwisgiad 1911, bu llawer mwy o wrthwynebiad i achlysur Arwisgiad 1969 gan genedlaetholwyr Cymreig.

Arwisgwyd y Tywysog Siarl[golygu | golygu cod]

Un o’r achlysuron mwyaf dadleuol yn hanes Cymru’r 1960au oedd Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969. Gan weithio gyda’r Prif Weinidog Harold Wilson, fe wnaeth y Frenhines benderfynu y byddai yn rhoi’r teitl hwn i’w mab hynaf, y Tywysog Siarl.  Gobeithiai y byddai hyn yn cryfhau’r gefnogaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig ac yn lleihau apêl yr ymdeimlad o genedlaetholdeb oedd yn cynyddu yng Nghymru yn ystod y degawd hwnnw. Roedd twf ym mhoblogrwydd Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith ar y pryd yn achosi tipyn o ofid i’r Blaid Lafur. Gwelai George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac un a oedd yn frenhinwr brwdfrydig, y byddai’r arwisgiad yng Nghaernarfon yn gyfle i wrthweithio’r twf mewn cenedlaetholdeb.[2]

Bu nifer o wrthwynebiadau gan wahanol grwpiau o bobl pan gyhoeddwyd bod y Tywysog Siarl yn mynd i gael ei goroni’n Dywysog Cymru. Bu gwrthdystiadau meddiannu, streiciau newyn a gorymdeithiau protest. Cafwyd cwynion bod imperialaeth Saesnig yn cael ei wthio ar Gymru, a bod arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu. Cyfansoddwyd cerddi gan rai o feirdd Cymru oedd yn dangos eu gwrthwynebiad i’r arwisgo - er enghraifft, Gerallt Lloyd Owen, yn ei gerdd ‘Fy Ngwlad’.

Protest[dolen marw] yng Nghilmeri yn erbyn yr arwisgiad. 1969
Wylit, wylit, Lywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn.
Ein calon gan estron ŵr,
Ein coron gan goncwerwr,
A gwerin o ffafrgarwyr
Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.[3]
Y Tywysog Siarl yn 1972
Gwrthdystio[dolen marw] yn erbyn arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon, Mawrth 1969

Aeth Siarl i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth am dymor cyn yr arwisgo. Roedd ei diwtor yn gefnogwr Plaid Cymru, sef y darlithydd Dr Tedi Millward. Roedd y Prif Weinidog Harold Wilson yn poeni y byddai Siarl yn agored i niwed ond dywedodd MI5 nad oedd mewn unrhyw berygl.

Er mwyn osgoi achosi trafferth yn y seremoni roedd yr awdurdodau wedi arestio arweinwyr y grŵp paramilwrol Byddin Rhyddid Cymru cyn yr arwisgo.  Ar ddiwrnod yr arwisgo aeth yr arweinwyr gerbron llys. Ond oherwydd iddynt orliwio maint eu cefnogaeth a’r hyn roeddent wedi ei gyflawni, anfonwyd tri ohonynt i’r carchar a chafodd tri ddedfrydau gohiriedig.

Yn ystod y paratoadau ar gyfer yr arwisgo cafwyd nifer o alwadau am fomiau. Roedd Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC) wedi trefnu pedwar ffrwydrad, nid er mwyn lladd Siarl ond er mwyn tarfu. Lladdwyd dau aelod o MAC, sef Alwyn Jones a George Taylor, yn Abergele ddiwrnod cyn yr arwisgo pan ffrwydrodd eu gelignit.[2][4]

Ffrwydrodd bom y tu allan i ardd Prif Gwnstabl Gwynedd heb achosi unrhyw niwed.  Bedwar diwrnod yn ddiweddarach collodd bachgen 10 mlwydd oed droed ar ôl baglu dros ffrwydron y tu allan i siop haearnwerthwr roedd Siarl wedi ei phasio ar y ffordd i’r castell.  Ar bier Llandudno methodd bom arall â ffrwydro. Yn Nhachwedd 1969 arestiwyd John Jenkins a Frederick Alders ac anfonwyd hwy i’r carchar am achosi ffrwydradau, a daeth ymgyrch fomio MAC i ben.

Diwrnod yr Arwisgiad[golygu | golygu cod]

Ymwelwyr[dolen marw] yng Nghaernarfon ar ddiwrnod yr Arwisgiad

Aeth yr arwisgo yn ei flaen ar 1 Gorffennaf 1969. Yn ei araith, a draddodwyd yn Gymraeg, roedd Siarl yn cydnabod fod pobl Cymru’n benderfynol o amddiffyn eu treftadaeth a pharhau’n genedl falch ac ar wahân. Gwyliodd 90,000 yr orymdaith yng Nghaernarfon, tipyn llai na’r 250,000 a ddisgwyliwyd. Dangoswyd seremoni’r arwisgo ar y teledu, a chafodd ei darlledu o amgylch y byd i 500 miliwn o bobl, 19 miliwn ohonynt yn y Deyrnas Unedig. Costiodd y seremoni £200,000 o arian cyhoeddus ond rhoddodd hwb mawr i'r economi leol o ran twristiaeth.[2]

Wedi’r holl fygythiadau am darfu dim ond ychydig o ddigwyddiadau y bu'n rhaid i’r llys ynadon lleol ddelio â nhw - dau achos o ddinoethiad anweddus, dau am gario arfau bygythiol, tri am darfu ar yr heddwch; dau ohonynt am wneud arwydd “V” ar y Frenhines a’r dyrfa wedyn yn troi arnynt, ac un am daflu croen banana o dan Farchoglu’r Frenhines. Roedd polau piniwn yn awgrymu bod tri chwarter o bobl Cymru’n cefnogi’r achlysur, er bod cyfran uwch o bobl ifanc yn elyniaethus tuag ato.[2][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Style and titles of The Prince of Wales". The Royal Family. Cyrchwyd 2008-09-01.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Pleidiol wuf im gwlad" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 11 Mawrth 2020.
  3. Gerallt Lloyd Owen, 'Fy Ngwlad', yn Cerddi'r Cywilydd (Gwasg Gwynedd, 1972; sawl argraffiad ers hynny).
  4. "'Militants' key role in coming of devolution left ignored deliberately'". Wales Online. 20 November 2008.
  5. "Wales backs Charles for king". BBC News Online. 25 June 1999. Cyrchwyd 5 May 2010.